Teithio llesol

 

 

Beth yw teithio llesol?

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio ar wneud teithio llesol y ffordd orau o deithio o gwmpas pellteroedd byrrach.

Mae teithio llesol yn cyfeirio at deithiau cerdded a beicio, yn ogystal ag ar gadair olwyn, sgwteri symudedd, beiciau wedi'u haddasu, e-feiciau, a sgwteri gwthio.

Mae gan deithiau teithio llesol gyrchfan bwrpasol, er enghraifft, teithiau i'r ysgol, gwaith a siopau, neu i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau eraill.

Ddim yn mynd yn bell? Gadael y car! Ewch i'n canllaw dechrau arni am ragor.

Teithio cynaliadwy

Mae dewis teithio llesol ar gyfer teithiau byr yng Nghasnewydd yn ffordd wych, rhad o hybu eich iechyd corfforol a meddyliol, cysylltu â’r ddinas a lleihau effaith carbon teithiau bob dydd.

Dysgwch fwy am sut mae teithio a thrafnidiaeth yn effeithio ar ansawdd aer ar ein tudalen teithio cynaliadwy.

Sut mae teithio cynaliadwy yn helpu i wella ansawdd aer

Siarter teithio iach Gwent

Mae’r cyngor hefyd wedi ymrwymo i siarter teithio iach Gwent. Mae'r siarter yn nodi ein hymrwymiad i hyrwyddo opsiynau teithio cynaliadwy a llesol o fewn ein sefydliad. 

Darllenwch fwy am y siarter