Clybiau brecwast
Mae clybiau brecwast am ddim mewn rhai ysgolion yng Nghasnewydd yn rhoi dechrau iach i blant i'r diwrnod ysgol, gan helpu i wella eu hiechyd a'u gallu i ganolbwyntio a chodi safonau dysgu.
Brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd!
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi brecwast am ddim i blant oed cynradd sydd wedi cofrestru mewn ysgolion cynradd a gynhelir yng Nghymru.
Dylai'r brecwast a gynigir fod yn iach a chyd-fynd â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, a dylai'r plant allu dewis un eitem yr un o blith diodydd neu gynhyrchion llaeth, grawnfwyd, ffrwythau a llysiau, a bara a rhywbeth i'w roi arno.
Mae gan yr ysgolion isod glybiau brecwast am ddim; cysylltwch â'ch ysgol yng Nghasnewydd i gael rhagor o wybodaeth: