Sut gwneir penderfyniad

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn defnyddio meddalwedd pennu llwybr i benderfynu ar y llwybr cerdded byrraf i'r ysgol - efallai nad dyma'r llwybr fydd yn cael ei ddewis gan y plentyn, o reidrwydd.

Mae'r feddalwedd pennu llwybr wedi'i chymeradwyo a'i phrofi gan swyddogion ac aelodau'r cyngor a dyma'r unig declyn mesur sy'n cael ei ddefnyddio gan y cyngor.

Wrth ystyried ceisiadau am gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol, mae'r pellteroedd yn cael eu mesur yn ôl y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael rhwng y fynedfa agosaf neu gât flaen y tŷ a mynedfa neu gât agosaf yr ysgol.

Ystyrir bod llwybr 'ar gael' os bydd plentyn yn gallu cerdded i'r ysgol yn rhesymol ddiogel, gyda chwmni os bydd angen.

Rhieni, nid y cyngor, fydd yn penderfynu a ddylai rhywun gerdded gyda'r plentyn.

Bydd y cyngor yn ystyried y risgiau a ffactorau diogelwch eraill e.e. camlesi, afonydd, ffosydd, goleuadau stryd, palmentydd a chyflymder traffig ar hyd y ffyrdd.

Mae llwybrau'n cael eu hasesu ar y diwrnodau a'r amseroedd y byddai disgwyl i ddisgyblion ddefnyddio'r llwybr, gan ddefnyddio'r canllawiau yn Teithio gan Ddysgwyr, Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Mehefin 2014 (pdf), Llywodraeth Cymru.

Dywed yr arweiniad hwn fod rhaid i'r cyngor ystyried bod llwybr yn 'ddiogel', ac felly 'ar gael', oni bai bod cymaint o risg fel y byddai oedolyn sy'n cerdded gyda'r plentyn yn wynebu risg arwyddocaol o'r traffig.

Weithiau, bydd angen i ni drefnu pwyntiau casglu ar gyfer plant pan na fydd hi'n bosibl i gerbydau fynd yn agos at gartrefi.

Fel arfer, dylai'r pwynt casglu fod yn llai na milltir i ffwrdd o'r cartref.

Gall cludiant am ddim gael ei ddarparu mewn eithriadau, pan fydd y cyngor yn penderfynu nad oes llwybr addas ar gael i'r ysgol.

Byddai angen i'r risg fod cynddrwg fel y byddai'r sefyllfa draffig benodol yn achosi risg sylweddol i'r unigolyn sy'n cerdded gyda'r plentyn.

Gall disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim ddefnyddio bysys lleol fel teithwyr sy'n talu am eu siwrnai.

Yn ogystal, gallai seddi am bris gostyngol fod ar gael i'w prynu ar gerbydau dan gontract. 

Gwybodaeth arall 

  • Caiff cludiant am ddim ei drefnu a'i weinyddu gan y cyngor ac ni fydd rhieni'n cael ad-daliadau am drefniadau lleol unigol os bydd cludiant y cyngor ar gael

  • Fel arfer, ni fydd disgyblion sy'n symud i gyfeiriad y tu allan i ddalgylch eu hysgol yn parhau i gael cludiant am ddim i'r ysgol honno os byddant yn symud yn ystod blwyddyn gyntaf neu ail flwyddyn eu haddysg. Bydd ceisiadau ar gyfer disgyblion sy'n symud cartref yn ystod y drydedd neu'r bedwaredd flwyddyn yn cael eu hystyried ar yr amod bod cludiant yn gallu cael ei ddarparu gan wasanaethau presennol yng Nghasnewydd

  • Gallai cludiant am ddim gael ei ddarparu, o dan amgylchiadau eithriadol, am resymau meddygol ar gyfer disgyblion sy'n byw yn nalgylch eu hysgol. Mae'n rhaid i geisiadau gael eu hategu gan adroddiad diweddar gan ymgynghorydd meddygol sy'n argymell cludiant arbennig am gyfnod penodedig.

  • Nid yw cludiant am ddim yn cael ei ddarparu ar gyfer disgyblion sy'n mynd i ysgolion preifat 

  • Nid yw cludiant am ddim yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr 19 oed a hŷn oni bai eu bod yn parhau'n ddi-dor â chwrs astudio a ddechreuodd cyn iddynt gyrraedd 19 oed