Ysgolion Iach

Welsh Network Healthy Schhols Scheme

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhan o Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru (RhCYIC) sydd â’r nod o hyrwyddo iechyd a llesiant plant, pobl ifanc a’r cymuned cyfan mewn ysgolion ledled Cymru.

Cydnabyddir y Cynllun Ysgolion Iach gan y Sefydliad Iechyd y Byd ac mae’n rhan o Ysgolion Hybu Iechyd Ewrop.

Mae ysgolion sy’n derbyn gwobr ansawdd genedlaethol RhCYIC wedi dangos eu bod wedi ymrwymo i hyrwyddo llesiant ac iechyd corfforol, meddwl a chymdeithasol i holl aelodau’r ysgol a’r gymuned leol.

Y nod yw i ysgolion:

  • hyrwyddo hunanhyder
  • datblygu perthnasau da
  • annog ethos cadarnhaol
  • sicrhau cysylltiadau da â’r ysgol/y cartref/y gymuned
  • gorfodi polisïau i adlewyrchu y cwricwlwm addysg iechyd, ac
  • annog datblygiad a hyfforddiant staff

Meysydd gweithredu i ysgolion yw:

  • bwyd a ffitrwydd
  • iechyd a llesiant meddwl ac emosiynol
  • datblygu personol a pherthnasoedd
  • defnyddio a chamddefnyddio sylweddau
  • yr amgylchedd
  • diogelwch
  • hylendid

Ysgolion Iach yng Nghasnewydd

Mae 8 ysgol GAG yng Nghasnewydd: 

  • Ysgol Gynradd Eveswell 
  • Ysgol Gynradd Llyswyry 
  • Ysgol Gynradd Langstone 
  • Ysgol Gynradd Clytha  
  • Ysgol Gynradd Llys Malpas 
  • Ysgol Gynradd Maendy
  • Ysgol Gymraeg Casnewydd
  • Fairoak Nursery

Mae ysgolion eraill yn gweithio i ennill y wobr.

Mentrau Casnewydd

Mae’r cynlluniau canlynol wedi’u cyflwyno mewn ysgolion yng Nghasnewydd mewn partneriaeth â sefydliadau eraill:

  • Cynllun teithio llesol ysgolion
  • Polisi bwyd a ffitrwydd
  • Gweithdai coginio i deuluoedd
  • Milltir ddyddiol
  • Hyrwyddo'r Ras Parc i’r Ieuenctid
  • Hyfforddiant gwobr Gweithwyr Chwarae
  • Wythnos ysgolion iach
  • Mynediad at ddigwyddiadau chwaraeon lleol a chenedlaethol
  • Cyngor ysgol
  • Clybiau eco
  • Rhaglenni gweithgareddau allgyrsiol
  • Rhaglen Cynllun Gwên

Manylion Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm polisi, partneriaeth ac ymglymiad.

TRA92700 22/10/2018