Addysg Ddewisol yn y Cartref

WELSH WG Elective home education grant

  

Term yw Addysg Ddewisol yn y Cartref sy’n disgrifio sefyllfa lle mae rhieni yn addysgu eu plant gartref yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol.

 

Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae addysg yn orfodol, ond nid yw mynd i’r ysgol yn orfodol.

 

Darllenwch am addysg ddewisol yn y cartref yng Nghymru (pdf)

 

Nid oes gan awdurdodau lleol unrhyw gyfrifoldeb na rhwymedigaeth gyfreithiol i ariannu rhieni sy'n dewis addysgu gartref.

 

Rhaid i rieni sy'n dewis addysgu eu plant gartref fod yn barod i ddarparu a thalu am lyfrau, yr holl ddeunyddiau eraill a chost unrhyw arholiadau cyhoeddus a ffioedd cyrsiau.

 Hysbysiad preifatrwydd - addysg ddewisol yn y cartref (pdf)