Covid-19: gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd

Yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a ryddhawyd ar 26 Awst, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi penderfynu y dylai disgyblion ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol lle nad yw ymbellhau cymdeithasol yn bosibl dros gyfnodau hir o amser.

Os gall ysgol leihau'r angen i ddisgyblion fod mewn man cymunedol am gyfnod hir, nid oes angen defnyddio gorchuddion wyneb.

Bydd pob ysgol yn cynnal asesiad risg ac yn gwneud penderfyniad ynghylch defnyddio gorchuddion wyneb yn seiliedig ar gyngor arbenigol a chan ystyried unrhyw ddisgyblion a all gael eu heithrio. 

Y rheolaethau pwysicaf i atal haint yw hylendid dwylo ac arwynebau, cynnal grwpiau ar wahân o ddisgyblion a staff, osgoi sgyrsiau agos wyneb yn wyneb a mesurau ymbellhau cymdeithasol 2 fetr gofalus.  

Bydd y defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd yn parhau i gael ei adolygu.

Gwybodaeth ychwanegol

Gweler Canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau 

Gweler Adolygiad Llywodraeth Cymru o dystiolaeth sy'n ymwneud â gorchuddion wynebau ar gyfer plant a phobl ifanc mewn lleoliadau addysg 

Gweler Cynlluniau ar gyfer dychwelyd i’r ysgol fis Medi: coronafeirws

TRA124430 01/09/2020