Cyn gwneud cais am le ysgol

Ffeithiau pwysig y dylech eu gwybod cyn gwneud cais am le mewn ysgol

Bydd gwneud penderfyniadau am addysg eich plentyn yn un o'r pethau pwy sicaf a wnewch. I'ch helpu i wneud y penderfyniad hwnnw mae angen i chi ddarllen y polisi derbyn i ysgolion perthnasol ond mae'r canlynol yn rhai ffeithiau pwysig i'w cofio. Dim ond oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn all wneud cais.

1. Gallwch ddewis chwilio am ysgol addysg Gymraeg, addysg Saesneg neu addysg ffydd 

  • Nid oes angen i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg na hyd yn oed yn siaradwr Cymraeg i'ch plentyn fynychu ysgol Gymraeg, dod yn ddwyieithog
  • Am le yn un o ysgolion ffydd Casnewydd (gwirfoddol a gynorthwyir), gwnewch gais yn uniongyrchol i'r ysgol, ar wahân i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas lle dylech gyflwyno cais drwy'r wefan hon. Am le ym mhob ysgol arall yng Nghasnewydd, gwnewch gais yma.

2. Gall rhieni fynegi ffafriaeth (dewis) ar gyfer unrhyw ysgol y maent am i'w plentyn ei mynychu a bydd y cyngor yn ceisio bodloni'r dewis hwnnw lle mae lleoedd ar gael.

  • Rhoddir blaenoriaeth i blant y mae eu rhieni wedi mynegi dewis o ysgol dros blant nad yw eu rhieni wedi gwneud hynny
  • Dylech ystyried mynegi dewis o dair ysgol wahanol o leiaf er mwyn cynyddu eich siawns o gael lle mewn ysgol yr ydych yn hapus â hi, gan fod rhai ardaloedd yng Nghasnewydd lle mae'r galw am leoedd mewn ysgolion yn arbennig o uchel
  • Gan nad oes sicrwydd o le mewn ysgol benodol, ni ddylech dybio y bydd eich plentyn yn cael lle yn yr ysgol o'ch dewis, hyd yn oed os mai dyma'r ysgol ddalgylch neu eich bod yn byw'n eithaf agos iddi
  • Os yw nifer y ceisiadau i’r ysgol yn llai neu’n hafal i nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd pob ymgeisydd yn cael ei dderbyn.  Fodd bynnag, os oes mwy o geisiadau nag sydd o leoedd ar gael, defnyddir rhestr o feini prawf gordanysgrifio i bennu blaenoriaeth ar gyfer lleoedd (gweler y polisi derbyn i ysgolion perthnasol am fanylion)
  • Gallwch ofyn am gael lle arall yn eich ysgol agosaf sydd ar gael os bydd eich dewisiadau'n aflwyddiannus
  • Nid yw mynychu dosbarth meithrin yn gwarantu derbyn nac yn rhoi unrhyw fantais i gais y plentyn am le yn y dosbarth Derbyn.  Yn yr un modd, nid yw mynychu ysgol gynradd yn gwarantu mynediad nac yn rhoi unrhyw fantais i gais y plentyn am ysgol uwchradd.

3. Mae gan bob cyfeiriad yng Nghasnewydd ysgol ddalgylch Gymraeg ac ysgol ddalgylch Saesneg

  • Bydd plant sy'n byw yn y dalgylch hwnnw yn cael blaenoriaeth i'w derbyn wrth wneud cais, er nad yw hyn yn gwarantu lle
  • O ran eich ysgol ddalgylch, bydd rhywun y tu allan i’ch dalgylch sy’n mynegi dewis am gael mynd i’ch ysgol ddalgylch yn cael blaenoriaeth uwch na’ch plentyn chi os nad ydych yn mynegi dewis o blaid mynd yno.
  • Os byddwch yn penderfynu peidio â rhestru eich ysgol ddalgylch fel un o'ch dewisiadau ond yn aflwyddiannus gyda'ch holl ddewisiadau, dim ond os oes lleoedd yn weddill y bydd eich plentyn yn cael ei ystyried ar gyfer lle arall yn yr ysgol ddalgylch

4. Bydd angen i chi feddwl am sut y bydd eich plentyn yn teithio i'r ysgol, gan efallai na fydd ganddo hawl i gael cludiant i'r ysgol.

  • Nid oes trafnidiaeth ar gael i ddisgyblion oedran meithrin

5. A oes gan eich plentyn frawd neu chwaer iau?

  • Nid yw cais llwyddiannus am un plentyn yn gwarantu mynediad ir ysgol i aelodau eraill o'ch teulu.
  • Ystyriwch unrhyw geisiadau y gallai fod angen i chi eu gwneud yn y dyfodol a'r effaith bosibl os ydynt yn aflwyddiannus, yn enwedig os ydych yn gwneud cais i ysgol y tu allan i'ch dalgylch

6. Pa dystiolaeth fydd angen i chi ei chyflwyno gyda'ch cais?

  • Bydd cais heb y dystiolaeth gywir yn anghyflawn ac ni fydd yn gymwys i gael blaenoriaeth o dan y meini prawf gordanysgrifio, a allai olygu na chynigir lle mewn ysgol i'ch plentyn.
  • Wrth gyflwyno tystiolaeth, dim ond copïau o ddogfennau yn unig y dylech eu darparu. Ni all y Cyngor gymryd cyfrifoldeb dros ddychwelyd unrhyw ddogfennau gwreiddiol a ddarperir.