Ysgolion a chydraddoldebau

Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, mae’n rhaid i bob ysgol a chorff cyhoeddus hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau cymunedol da a dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth rhwng pobl ar sail y naw nodwedd warchodedig, sef:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol 

Deddf Cydraddoldeb 2010 a'r Ddyletswydd Anableddau

Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, mae gofyn i gyrff sector cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, hybu cydraddoldeb i bobl anabl ym mhob agwedd ar eu gwaith.

Mae’r ddyletswydd gydraddoldeb:

  • yn gofyn i ysgolion fabwysiadu dull rhagweithiol, gan ymgorffori cydraddoldeb anableddau ym mhob penderfyniad a gweithgaredd
  • yn berthnasol i ddisgyblion anabl sydd mewn addysg ac mewn unrhyw wasanaethau nad ydynt yn rhai addysgiadol, megis clybiau ar ôl ysgol, teithiau ysgol ac ati
  • yn berthnasol i holl rieni, aelodau staff ac ymwelwyr yr ysgol, aelodau'r gymuned leol a disgyblion posibl yn y dyfodol

Cynlluniau hygyrchedd

Mae’n rhaid i'r cyngor roi strategaeth hygyrchedd ar waith, ac mae’n rhaid i bob ysgol weithredu cynllun hygyrchedd cyfatebol.

Strategaeth Hygyrchedd i Ysgolion 2019-2024 (pdf)

Er bod y cynllun hygyrchedd yn wahanol i gynllun cydraddoldeb strategol, gellir ei gyhoeddi fel rhan ohono, neu fel rhan o ddogfen arall megis y cynllun datblygu ysgol neu'r cynllun gwella ysgol.

Gall archwiliadau ESTYN gynnwys cynllun hygyrchedd ysgol fel rhan o’u hadolygiad.

Rhaid i’r cynllun ddangos sut mae'r ysgol yn:

  • Gwella cyfranogiad disgyblion anabl yn y cwricwlwm
  • Gwella amgylchedd ffisegol ysgolion i alluogi'r rheiny ag anableddau i fanteisio ar addysg, buddiannau, cyfleusterau a'r gwasanaethau a ddarperir
  • Gwella mynediad at wybodaeth

Bydd angen i ysgolion ddarparu adnoddau digonol i weithredu cynlluniau a rhaid iddynt eu hadolygu'n rheolaidd.