Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar y cynnig canlynol:
- Sefydlu ysgol gynradd egin cyfrwng Cymraeg ar safle gwag hen Ysgol Fabanod Caerleon Lodge Hill o fis Medi 2021
- Adleoli Ysgol Gynradd Pillgwenlli o’r safle presennol i adeilad wedi ei adeiladu o’r newydd ar ddatblygiad Whiteheads, gan gynyddu lleoedd disgyblion prif ffrwd o 546 i 630 a lleoedd ei Chanolfan Adnoddau Dysgu (CAD) o 10 i 20 o Ionawr 2023
- Wedyn, trosglwyddo’r ysgol egin i leoliad parhaol ar safle presennol Ysgol Gynradd Pillgwenlli bresennol o fis Medi 2023
Lawrlwythwch yr Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)
Lawrlwythwch yr Atodlen Benderfynu (pdf)
Lawrlwythwch yr Asesiad o Degwch ac Effaith ar Gydraddoldeb (pdf)
Ymgynghoriad
Daith i ben Gwener 13 Medi 2019
Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu recordio a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori.
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yma ac yn cael ei ystyried pan fydd y cyngor yn penderfynu ar y camau nesaf.
Lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn (pdf)
Lawrlwythwch fersiwn gryno’r ddogfen ymgynghori (pdf)
Cyfrwng Cymraeg 4 ac Ysgol Pilgwenlli
Cynhelir sesiynau galw heibio lle gall pobl y mae’r cynnig yn effeithio arnynt yn fwyaf uniongyrchol gwrdd â swyddogion y Cyngor a fydd ar gael i esbonio’r cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau.
Ble?
|
Pryd?
|
Cyfieithu fydd ar gael
|
Ysgol Gynradd Caerleon Lodge Hill, Roman Way, Caerllion NP18 3BY
|
5 Medi 2019, 3.45pm-5.30pm
|
Cymraeg
|
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, Duffryn Way, NP10 8BX
|
12 Medi 2019, 8.30am-10am
|
Cymraeg
|
Ni chaiff unrhyw ymatebion negyddol a wneir yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn eu hystyried yn wrthwynebiadau ond yn hytrach yn sylwadau croes.
Dim ond ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol, sef ail gam y cynnig, y gellir cofrestru gwrthwynebiadau.
Daith i ben 13 Medi 2019
Adroddiad Ymgynghori
Lawrlwythwch yr Adroddiad Ymgynghori (pdf) sy’n crynhoi’r broses ymgynghori ac ymgysylltu, sylwadau a ddaeth i law ac ymateb y cyngor i’r rhain.
Cyhoeddi Hysbysiad Statudol
Mae’r Aelod Cabinet wedi ystyried yr holl safbwyntiau a fynegwyd a’r ymatebion a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori ffurfiol ac mae wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r cynnig i’r cam hysbysiad statudol.
Cyfnod Rhybudd Statudol 2 Mawrth – 30 Mawrth 2020
Mae’r cyfnod hysbysiad statudol yn galluogi pobl i fynegi eu barn i gefnogi neu wrthwynebu’r cynnig.
Lawrlwythwch yr Hysbysiad Statudol (pdf)
Lawrlwythwch yr Adroddiad i’r Aelod Cabinet (pdf)
Lawrlwythwch yr Asesiad Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a ddiweddarwyd (pdf)
Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfyniad cysylltiedig (pdf)
Penderfyniad
Aeth yr ymgynghoriad drwy'r cam rhybudd statudol heb unrhyw wrthwynebiadau, ac felly gwnaed penderfyniad terfynol gan Aelod Cabinet y cyngor dros Addysg a Sgiliau.
Penderfyniad terfynol
Mae'r Aelod Cabinet wedi gwneud y penderfyniad i weithredu'r cynnig i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd ac adleoli Ysgol Gynradd Pilgwenlli.
Lawrlwytho’r Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)
Lawrlwytho’r Atodlen Benderfynu gysylltiedig (pdf)
Lawrlwytho’r Asesiad o Degwch ac Effaith ar Gydraddoldeb (pdf)
Lawrlwytho’r Llythyr Hysbysu Penderfyniad Terfynol (pdf)
TRA121574 30/06/2020