Ehangu Ysgol Gynradd Millbrook

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymgynghori ar y cynnig:

I gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Millbrook o 210 i 315, gan greu ysgol 1.5 dosbarth mynediad parhaol o fis Medi 2018 ymlaen

Lawrlwytho’r Adroddiad i Aelod y Cabinet ar gyfer Addysg a Sgiliau (pdf)

Lawrlwytho’r Atodlen Benderfyniad gysylltiedig (pdf)

Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a Thegwch[U1]  (pdf)  

Ymgynghoriad

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 11 Medi a 22 Hydref 2017 ac mae wedi’i gau erbyn hyn.

Rhoddodd yr ymgynghoriad gyfle i bobl gael gwybodaeth am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau sydd wedi cael eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori (pdf) i’w ystyried pan fydd y cyngor yn gwneud penderfyniad.

Cynhaliwyd dwy sesiwn galw heibio ar gyfer pobl y byddai’r cynnig yn effeithio arnynt yn fwyaf uniongyrchol, lle’r oedd swyddogion y cyngor wrth law i esbonio’r cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau. 

Ble?

Pryd?

Ysgol Gynradd Millbrook                 

12 Hydref 2017

Ysgol Gynradd Millbrook

17 Hydref 2017

 

Lawrlwytho’r llythyr at randdeiliaid (pdf)  

Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn (pdf)  

Lawrlwytho’r fersiwn gryno o’r ddogfen ymgynghori mewn iaith pob dydd (pdf)  

Roedd y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad[U2]  (pdf) ar gael yn y sesiynau galw heibio.

Ystyriwyd ymatebion a wnaed yn ystod y cyfnod ymgynghori fel sylwadau anffafriol yn hytrach na gwrthwynebiadau i’r cynnig, oherwydd gellir cofrestru gwrthwynebiadau ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol yn unig. 

Y cynnig

Y cynnig yw cynyddu capasiti’r ysgol gyfan ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol o 210 (1 dosbarth mynediad) i 315 (1.5 dosbarth mynediad).

O ganlyniad, bydd y nifer derbyn cyhoeddedig ar gyfer yr ysgol yn cynyddu o 30 i 45.

Bydd y cynnydd mewn capasiti’n digwydd fesul cam.

Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar safle mawr sydd â digon o le a seilwaith i gefnogi cynnydd mewn capasiti.

Mae’r cyngor eisoes wedi gwneud y gwaith adeiladu sy’n angenrheidiol i sicrhau bod yr ysgol gyfan yn addas i fodloni gofynion amgylchedd dysgu’r 21ain Ganrif. 

Mae’r cynnig hwn yn cefnogi gweledigaeth y cyngor ar gyfer ‘yr ysgol briodol yn y man priodol’ a’r egwyddor ‘ysgolion lleol ar gyfer plant lleol'.

Mae mwy o alw gan rieni am leoedd ysgol yn y rhan hon o’r ddinas, a gall y safle gefnogi capasiti ychwanegol heb gael unrhyw effaith niweidiol ar ysgolion lleol eraill. 

Bydd y cynnig hwn o fudd i’r gymuned leol oherwydd bydd capasiti Ysgol Gynradd Millbrook yn cael ei gynyddu yn y pen draw ar draws pob grŵp blwyddyn o’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn Chwech.

Ni fydd capasiti’r dosbarth meithrin yn newid, sef 32 lle rhan-amser a ddarperir mewn sesiwn fore neu brynhawn.  

Adroddiad ymgynghori 

Lawrlwythwch yr adroddiad ymgynghori (pdf) sy’n crynhoi’r broses ymgynghori, y sylwadau a gafwyd ac ymateb y cyngor i’r rhain.

Final decision

The full statutory consultation process has ended on the council's proposal to increase the capacity of Millbrook primary school.

This process passed through the statutory notice stage without objection and a final decision has been taken by the CM for Education and Skills to implement the proposal with effect from September 2018.

Download the Report to the CM for Education and Skills (pdf)

Download the associated Decision Schedule (pdf)

Download the Fairness and Equality Impact Assessment (pdf)

Download the final decision notification letter (pdf)