Ysgol Gynradd Marshfield

Cynnig i sefydlu meithrinfa yn Ysgol Gynradd Marshfield  

Mae hefyd cynnig i sefydlu meithrinfa ar safle ysgol Marshfield gan ymestyn yr ystod oedran i 3-11 blwydd oed fydd yn dechrau o fis Medi 2016.

Bydd y feithrinfa yn darparu 16 lle meithrin sy’n cyfateb i lawn amser ar gyfer plant i fynychu sesiynau bore a phrynhawn.

Mae'r cynnig hwn yn awr yn cael ei gyhoeddi ar ffurf Hysbysiad Statudol yn unol ag Adran 48 o Ddeddf 2013 Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).

Cyfnod ymgynghoriad ffurfiol

9 Medi 2015 - canol nos, 29 Hydref 2015

Am wybodaeth bellach dadlwythwch y pecyn ymgynghoriad  (pdf)

Dadlwythwch yr asesiad effaith tegwch a chydraddoldeb ar gyfer ymgynghoriad ysgol Marshfield  (pdf)

Cwblhewch yr arolwg Marshfield ar-lein i rannu eich barnau  

Bydd digwyddiadau ymgynghori galw i mewn yn cael eu cynnal yn ysgol Gynradd Marshfield ar: 

  • 11 Medi 2015, 3.45pm - 5.45pm
  • 14 Medi 2015, 9am - 11am

Bydd crynodeb o ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael eu cyhoeddi yma a’u cyflwyno i’r aelod cabinet dros addysg cyn i benderfyniad gael ei wneud ar naill ai i gyhoeddi neu beidio cyhoeddi’r cynigion drwy rybudd statudol.