Ffederasiwn Ysgolion Eveswell a Somerton

Sefydlu Ffederasiwn Ysgol yn ymgorffori Ysgol Gynradd Eveswell ac Ysgol Gynradd Somerton

Mae cyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Eveswell ac Ysgol Gynradd Somerton, ynghyd â Chyngor Dinas Casnewydd, yn cynnig defnyddio’r pwerau a roddir iddynt dan Reoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 i sefydlu Partneriaeth Ysgolion Cynradd Eveswell a Somerton. 

Lawrlwythwch yr Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)

Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfyniad cysylltiedig (pdf)

Lawrlwythwch yr Asesiad o Degwch ac Effaith ar Gydraddoldeb (pdf)  

Ymgynghoriad

Digwyddodd yr ymgynghoriad rhwng 3 Mehefin a 14 Gorffennaf 2019

Mae Rheoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn amlinellu’r gofyniad statudol i geisio barn rhanddeiliaid ar gynigion ffedereiddio.

At y diben hwn, diffinnir rhanddeiliaid priodol fel a ganlyn:

  • staff y ddwy ysgol
  • rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid disgyblion sy’n mynychu’r ddwy ysgol
  • y disgyblion sy’n mynd i’r ddwy ysgol (drwy law’r ddau gyngor ysgol)
  • undebau staff addysgu a staff cymorth yn cynrychioli athrawon a staff y ddwy ysgol
  • aelodau ward lleol y ddwy ysgol
  • penaethiaid bob ysgol yn ardaloedd clwstwr Llanwern a Llyswyry
  • Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) De Ddwyrain Cymru
  • Estyn 

Lawrlwytho’r llythyr i randdeiliaid (pdf)  

Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori (pdf)  

Lawrlwytho’r pro-fforma ymateb i ymgynghoriad  (pdf) 

Roedd y wybodaeth hon hefyd ar gael ar wefannau Ysgol Gynradd Eveswell  ac Ysgol Gynradd Somerton, gyda chopïau caled ar gael i’w harchwilio yn y ddwy ysgol. 

Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori rhwng 3  Mehefin a 14  Gorffennaf 2019.   

Roedd cyngor y broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gafodd eu recordio a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori (pdf).

Caiff yr adroddiad ei ystyried gan y cyrff llywodraethu a’r cyngor i benderfynu a ddylid gweithredu’r cyngor neu beidio.

Y cynnig

Mae cyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Eveswell ac Ysgol Gynradd Somerton, ynghyd â Chyngor Dinas Casnewydd, yn cynnig defnyddio’r pwerau a roddir iddynt dan Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 i sefydlu Partneriaeth Ysgolion Cynradd Eveswell a Somerton (y Ffederasiwn). 

Mae’r term ‘ffederasiwn’ yn disgrifio cytundeb ffurfiol a chyfreithiol lle mae’r ysgolion ynghlwm yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth ffurfiol gan rannu’r trefniadau llywodraethiant dan un corff llywodraethu.

Bydd y cyrff llywodraethu presennol yn cael eu dirymu a’u disodli gan gorff llywodraethu newydd gyda goruchwyliaeth strategol o’r ddwy ysgol. 

Mae’r ddwy ysgol wedi gweithio ar y cyd ers mis Medi 2016 ac wedi rhannu un pennaeth gweithredol ers hynny. Mae’r cyrff llywodraethu wedi ymgynghori â’r cyngor ac mae bob parti’n cefnogi’r cynnig. 

Nod y Ffederasiwn yw i’r ddwy ysgol weithio mewn partneriaeth i: 

  • ddatblygu’r arfer rhagorol a rennir sy’n gwarantu profiadau ardderchog a mwy o gyfleoedd i ddisgyblion a staff
  • datblygu’r nodau cyffredin a dulliau dysgu ac addysgu adfyfyriol fydd yn sicrhau bod y ddwy gymuned yn elwa ar addysg o safon

Bydd hyn yn sicrhau deilliannau cadarnhaol sylweddol a safonau gwell i gymunedau’r ddwy ysgol. 

Enw arfaethedig y Ffederasiwn yw Partneriaeth Ysgolion Cynradd Eveswell a Somerton.

Os caiff y cynnig ei gymeradwyo, bydd y ffederasiwn yn dechrau ar 1  Ionawr 2020.

Penderfyniad terfynol

Ystyriodd y ddau gorff llywodraethu yr adroddiad ymgynghori gan gytuno eu bod yn dymuno symud ymlaen gyda’r cynnig.

O ganlyniad, cyfeiriwyd y penderfyniad terfynol i Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Addysg a Sgiliau sydd wedi cytuno y dylai’r cynnig gael ei weithredu fel yr amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori.  

Bellach caiff Offeryn Llywodraeth (dogfen gyfreithiol sy’n cofnodi cyfansoddiad corff llywodraethu) ei ddatblygu ar gyfer yr corff llywodraethu wedi’i ffedereiddio, er mwyn ethol a phenodi llywodraethwyr fel sy’n briodol.

Bydd hyn yn cynnwys cadeirydd ac is-gadeirydd y ffederasiwn. 

Bydd y ffederasiwn a adwaenir fel  Partneriaeth Ysgolion Cynradd Eveswell a Somerton  yn cael ei sefydlu’n ffurfiol ac yn weithredol o 1 Ionawr 2020, pan fydd cyrff llywodraethu’r ddwy ysgol unigol yn cael eu dirymu. 

Lawrlwythwch yr Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)

Lawrlwythwch yr Asesiad Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a ddiweddarwyd (pdf)

Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfyniad cysylltiedig  (pdf)

Lawrlwythwch y llythyr hysbysu terfynol am y penderfyniad (pdf)

TRA111518 19/11/2019