Sefydlu Uned Adnoddau Dysgu yn Ysgol Gynradd Lodge Hill

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymgynghori ar y cynnig isod:

Sefydlu Uned Adnoddau Dysgu generig 10 lle ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 oed ag anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gynradd Lodge Hill Caerllion a fydd yn weithredol o fis Ebrill 2019.

Lawrlwythwch yr Adroddiad i Arweinydd y Cyngor (pdf)

Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfynu gysylltiedig (pdf)

Lawrlwythwch yr Asesiad o'r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)  

Ymgynghoriad

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad o’r 5 Medi i’r 16 Hydref 2018

Roedd yr ymgynghoriad yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a chynnig sylwadau ar y cynnig.

Lawrlwythwch yr adroddiad ymgynghori (pdf) sy’n crynhoi’r broses ymgynghori ac ymgysylltu, y sylwadau a ddaeth i law ac ymateb y cyngor i’r rhain.

Cafodd sesiynau galw heibio eu cynnal lle’r oedd pobl y mae'r cynnig yn effeithio arnynt fwyaf yn gallu cyfarfod â swyddogion y Cyngor a oedd wrth law i egluro'r cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau. 

Ble?

Pryd?

Ysgol Gynradd Caerleon Lodge Hill (cyn adeilad iau), Lodge Hill, Caerllion, NP18 3BY

Dydd Mawrth 11 Medi 2018

Ysgol Gynradd Caerleon Lodge Hill (cyn adeilad iau), Lodge Hill, Caerllion, NP18 3BY

Dydd Iau 27 Medi 2018

 

Lawrlwythwch y llythyr i randdeiliaid (pdf)  

Lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn (pdf)  

Lawrlwythwch y fersiwn gryno bob dydd o’r ddogfen ymgynghori (pdf)  

Lawrlwythwch y profforma ymateb i’r ymgynghoriad (pdf)  

Ni fydd unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn yn cael eu hystyried yn wrthwynebiadau i’r cynnig, dim ond fel sylwadau gwrthwynebus. 

Gellir ond cofrestru gwrthwynebiadau ar ôl i’r hysbysiad statudol gael ei gyhoeddi, sef ail gam y cynnig.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar ddydd Mawrth 16 Hydref 2018. 

Y cynnig

Mae hwn yn gynnig i sefydlu Uned Adnoddau Dysgu generig 10 lle ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 oed ag anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gynradd Lodge Hill Caerllion a fydd yn weithredol o fis Ebrill 2019.

Ni fydd yn effeithio ar niferoedd derbyn presennol unrhyw grŵp blwyddyn, gan gynnwys y dosbarth meithrin.

Mae’r Uned Adnoddau Dysgu yn ddarpariaeth ychwanegol a fydd ar gael drwy gynllun adeilad newydd yr ysgol sy'n cael ei ddarparu gan y Cyngor ar y cyd â Llywodraeth Cymru trwy Fand A Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau Uned Adnoddau Dysgu mewn adeilad ysgol newydd sbon i gefnogi dull mwy cynhwysol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Hoffem fod mewn sefyllfa lle mae o leiaf un dosbarth Uned Adnoddau Dynol ym mhob clwstwr o ysgolion cynradd. Ar hyn o bryd, nid oes darpariaeth o’r fath yng nghlwstwr Caerllion, nac ychwaith yng nghlwstwr San Silian sydd gerllaw. 

Ni fydd y cynnig yn cael unrhyw effaith niweidiol ar addysg brif ffrwd Ysgol Gynradd Lodge Hill Caerllion, ac, mewn gwirionedd, credir y bydd yr ysgol a’r gymuned ehangach yn elwa yn y tymor hir.

Sefydlu CAD yn Ysgol Gynradd Lodge Hill

Adroddiad Ymgynghori

Lawrlwythwch yr adroddiad ymgynghori (pdf) sy’n crynhoi’r broses ymgynghori ac ymgysylltu, y sylwadau a ddaeth i law ac ymateb y cyngor i’r rhain.  

Cyhoeddi’r cynnig statudol

Mae Arweinydd y cyngor wedi ystyried y farn a fynegwyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori ffurfiol ac mae wedi penderfynu i fwrw ymlaen â’r cynnig.

Lawrlwythwch yr Adroddiad i’r Arweinydd (pdf) 

Lawrlwythwch yr Asesiad o'r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb diwygiedig (pdf)

Lawrlwythwch yr Amserlen Penderfyniadau gysylltiedig (pdf) 

Cyhoeddwyd Hysbysiad Statudol (pdf) ar 7 Ionawr 2019 am gyfnod o 28 diwrnod. Rhaid i unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig hwn ddod i law erbyn dydd Llun 4 Chwefror 2019.

Penderfyniad

Pasiodd yr ymgynghoriad trwy’r cam hysbysiad statudol heb wrthwynebiad ac felly gwnaed y penderfyniad terfynol gan Arweinydd y Cyngor. 

Penderfyniad terfynol

Mae Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd wedi penderfynu gweithredu’r cynnig i sefydlu dosbarth Canolfan Adnoddau Dysgu deg lle cyffredinol i ddisgyblion rhwng 4 a 11 oed ag anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gynradd Lodge Hill Caerllion o Ebrill 2019.

Lawrlwythwch Adroddiad yr Arweinydd (pdf)

Lawrlwythwch yr Asesiad Tegwch ac Effaith ar Gydraddoldeb newydd (pdf)

Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfyniad cysylltiedig (pdf)

Lawrlwythwch y llythyr hysbysiad penderfyniad terfynol (pdf)

TRA100082 1/4/2019