Ysgolion yr 21ain Ganrif
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru raglen buddsoddi cyfalaf, sef Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21fed ganrif, er mwyn rhoi cyfle i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu ysgolion a darparu'r ysgol gywir yn y lle cywir.
Mae nifer y disgyblion yn codi ar draws y ddinas, gan greu her o ran lleoedd cynradd mewn llawer o ysgolion.
Bydd datblygiadau tai newydd yn arwain at 5 ysgol gynradd newydd yn y ddinas yn ystod y 5 i 10 mlynedd nesaf, ynghyd ag ehangu nifer o ysgolion cynradd.
Mae angen i Gyngor Dinas Casnewydd ystyried sut mae addysg yn cael ei chyflwyno a chynllunio unrhyw newidiadau fel bod ysgolion yn addas i'w diben.
Darllenwch Strategic Outline Programme update July 2017 (pdf)
Darllenwch Ysgol Gyfun Gwent Is Coed Strategic Outline Case (pdf)
Darllenwch Bassaleg School Strategic Outline Case (pdf)
Darllenwch Strategic Outline Programme update October 2020 (pdf)
Dogfennau ategol
Adeiladau newydd ysgolion
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi newid tri adeilad ysgol hŷn am gyfleusterau newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif:
- Ysgol Uwchradd Casnewydd
- Ysgol Uwchradd Llanwern
- Ysgol Gynradd Glan Usk
Mae'r adeiladau'n cynnwys cyfleusterau casglu dŵr glaw, awyru naturiol, storio thermol, 20% o welliant ar y gofynion o ran allyriadau co2 a systemau dŵr poeth solar.