Dysgu Cymraeg yng Nghasnewydd

welsh language image

Mae gan Gasnewydd weledigaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf; bod pawb yng Nghasnewydd yn gallu defnyddio, gweld a chlywed y Gymraeg fel iaith fyw ym mhob rhan o fywyd ar draws y ddinas. 

Gweld, Clywed, Dysgu, Defnyddio, Caru

Mae Casnewydd yn ddinas amlddiwylliannol ag iddi dapestri ieithyddol cyfoethog ac amrywiol.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i chwilio am gyfleoedd ac i oresgyn heriau er mwyn hyrwyddo sgiliau’r Gymraeg a chefnogi dwyieithrwydd mewn amgylchedd cadarnhaol wedi ei seilio ar egwyddorion cynhwysiant a chyfle cyfartal. 

Rydym yn cefnogi ac yn annog disgyblion i ddefnyddio'r Gymraeg ar draws ystod o weithgareddau, ac mae ein hysgolion yn datblygu cyfleoedd i ganiatáu i hyn ddigwydd. 

Mae defnyddio'r iaith yn rheolaidd yn cyfrannu at ethos Cymraeg ysgol.  Caiff pob ysgol ei chefnogi a'i hannog i gofleidio a dathlu'r Gymraeg a diwylliant Cymru. 

Rydym yn falch ein bod wedi agor ein pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg ym mis Medi 2021, a gynyddodd nifer y lleoedd am ysgolion cynradd Cymraeg a oedd ar gael ledled y Ddinas gan 50%.

Mae'r datblygiad cyffrous hwn yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o sicrhau 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ledled Cymru erbyn 2050. Bydd hefyd yn helpu'r Cyngor i gyflawni'r amcanion a amlinellir yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA). 

Drwy ein hymrwymiad i'r Gymraeg a dwyieithrwydd, byddwn bob amser yn: 

  • Hyrwyddo a chynnal cysylltiadau cryf â darparwyr cyn ysgol cyfrwng Cymraeg
  • Gweithredu Polisi Derbyniadau Ysgol y Cyngor yn gyson ar draws y sectorau Cymraeg a Saesneg
  • Hwyluso pontio effeithiol rhwng pob cyfnod Addysg
  • Cefnogi trefniadau trochi effeithiol ac effeithlon i ddisgyblion sy’n dewis manteisio ar addysg Gymraeg yn hwyrach yn eu bywydau ysgol
  • Cynnal trefniadau priodol ar gyfer trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol sydd ar gael yn unol â pholisi’r Cyngor y cytunwyd arno
  • Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei haddysgu ar draws pob ysgol yn unol ag anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol, a chefnogi disgyblion mewn ysgolion Saesneg i sefyll arholiadau achrededig yn Gymraeg
  • Ceisio gwella'r cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol fel bod ganddynt fynediad cyfartal i gyfleoedd mewn addysg Gymraeg
  • Hwyluso mynediad at hyfforddiant o ansawdd i athrawon i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r Gymraeg
  • Cydnabod fod y gallu i siarad Cymraeg yn nodwedd ddymunol yn y fanyleb person wrth recriwtio staff, a
  • Gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo'r manteision economaidd a'r cyfleoedd cyflogaeth cynyddol sy'n gysylltiedig â dysgu Cymraeg
  • Sicrhau bod gan ddisgyblion yr hyder i ddilyn cyfleoedd addysg uwch ac addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg, a
  • Meithrin sgiliau Cymraeg drwy chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo'r rhain lle bynnag y bo modd ac annog disgyblion i ddefnyddio a datblygu eu medrau Cymraeg yn y gymuned. 

Y Daith cyfrwng Cymraeg

Y Blynyddoedd Cynnar

Mae lleoedd gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ar gael ledled Casnewydd drwy Addysg Gynnar, Dechrau'n Deg, Cylchoedd Ti a Fi (grwpiau babanod a phlant bach) a Chylchoedd Meithrin.

I ddod o hyd i'ch darpariaeth agosaf cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd

Ysgolion

Cymraeg yw’r iaith swyddogol ym mhob gweithgaredd ffurfiol ac anffurfiol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'r holl addysgu ac asesu, heblaw am Saesneg fel pwnc, yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg yn ystod pob cam allweddol.  Y nod yw sicrhau bod plant yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Saesneg ac yn Gymraeg, gan gyflawni’r lefelau cyrhaeddiad disgwyliedig ym mhob rhan o’r cwricwlwm. 

Rydym yn dysgu Cymraeg drwy bwysleisio dealltwriaeth cyn siarad, ysgogi plant i wrando, dysgu a siarad gan ddefnyddio ystod eang o weithgareddau sy'n briodol i'w hoedrannau a'u diddordebau, a elwir y dechneg drochi.  Cyflwynir y Saesneg i’r cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2 (7 oed).  

Mae rhai teuluoedd yn dewis addysg Gymraeg i'w plant yn ddiweddarach yn eu bywydau ysgol, ac rydym yma i helpu fel bod sgiliau iaith y plant hyn yn debyg i blant eraill o'u hoedran.  Rydym yn cynnig hyn drwy ddarpariaeth drochi pwrpasol sydd ar gael yn y sectorau cynradd ac uwchradd. 

Ysgol Gymraeg CasnewyddYsgol Bro TeyrnonYsgol Ifor Hael logo

ysgol gymraeg nant gwenlliYsgol Gyfun Gwent Is Coed

Ôl-16

Mae cyrsiau penodol ar gael i astudio'n ddwyieithog yng Ngholeg Gwent. Mae'r coleg hefyd yn cynnig cyfleoedd i astudio'r Gymraeg fel ail iaith, cefnogaeth astudio ddwyieithog a hynny drwy HWB Cymraeg a gweithgareddau cymdeithasol drwy’r Clwb Cymraeg. Bydd y coleg yn parhau i ganolbwyntio ar ymgorffori unedau dwyieithog llawn yn y prif gymwysterau mewn meysydd cwricwlwm dwyieithog â blaenoriaeth.

Addysg Bellach ac Oedolion

Mae Coleg Gwent yn cynnig Cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar gyfer pob cam o ddysgu a gallu.

Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig nifer o gyrsiau i astudio yn y Gymraeg.