GEMS

Mae Gwasanaeth Lleiafrifoedd Addysg Gwent GALlEG yn wasanaeth rhanbarthol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. 

Nod y gwasanaeth yw cefnogi ysgolion drwy ddarparu dysgu proffesiynol, cyngor a chymorth iaith i ddisgyblion nad y Gymraeg neu’r Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Gweledigaeth GALlEG yw: 'Galluogi pob plentyn neu berson ifanc amlieithog i ffynnu mewn amgylchedd addysgol cynhwysol ac uchelgeisiol'.

Mae GEMS yn darparu:

  • cyngor, cymorth ac arweiniad ar gydraddoldeb hiliol i ysgolion a chyrff llywodraethu
  • asesiadau dwyieithog i sefydlu gofynion am gymorth ieithyddol
  • ymweliadau â'r cartref i sicrhau bod cyfathrebu da'n cael ei sefydlu rhwng rhieni a'r ysgol. Mae gwybodaeth hanfodol am yr ysgol yn cael ei throsglwyddo i rieni yn iaith y cartref a chaiff eu pryderon a'u cwestiynau eu trosglwyddo'n ôl i'r ysgol.

Nid gwasanaeth cyfieithu neu ddehongli yw GALlEG.

Lawrlwythwch a darllenwch hysbysiad preifatrwydd GALIEG (pdf)

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch (01633) 851504.