Gwrychoedd neu berthi uchel

Yn 2005, rhoddodd y llywodraeth bwerau i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr reoli uchder gwrychoedd neu berthi sy'n effeithio ar eiddo preswyl.

Mae'r ddeddfwriaeth yn ymdrin â phob gwrych neu berth fythwyrdd a rhannol-fythwyrdd.

Pryder am wrych neu berth cymydog

Darllenwch ‘Over the Garden Hedge’ (PDF) sy'n esbonio sut i ddatrys unrhyw anghydfodau gyda'ch cymydog heb gynnwys y cyngor.

Mae'n rhaid dilyn y broses hon cyn y gallwch gwyno i'r cyngor.

Gwneud cwyn

Cyn gwneud cwyn ffurfiol i'r cyngor, darllenwch High Hedges: Complaining to the Council (PDF).

Os ydych chi eisiau parhau i wneud cwyn ffurfiol i'r cyngor, dylech lawrlwytho a llenwi'r Ffurflen Gwyno am Wrych neu Berth Uchel (PDF) gan gyfeirio at y canllawiau. 

Rhaid talu ffi o £320 i wneud cwyn ffurfiol i'r cyngor.