Gwywiad yr Onnen

Ash tree felling Caerleon Road 2

Gwaith wywiad yr onnen cyfredol

Heidenheim Drive (A4042)

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn gwneud gwaith diogelwch ar Heidenheim Drive (A4042) o ddydd Llun 5 Chwefror. 

Mae'r gwaith yn ymwneud â thorri coed sydd wedi cael eu heffeithio gan glefyd coed ynn. 

Bydd coed newydd yn cael eu plannu yn lle unrhyw goed sydd wedi'u heintio. Bydd ecolegydd yn gwirio'r safle cyn i'r gwaith ddechrau ac yn cynnal archwiliadau rheolaidd drwy gydol y gwaith i sicrhau nad yw’n tarfu ar unrhyw gynefinoedd.   

Bydd y gwaith yn cael ei wneud tua’r gogledd i’r ffordd. Bydd un lôn o'r lôn gerbydau tua’r gogledd ar gau drwy gydol y gwaith, felly efallai y bydd oedi yn yr ardal hon.

Mae'r gwaith yn dechrau ychydig i'r de o'r gyffordd ar gyfer Crindau a Sainsburys, gan barhau ychydig i'r gogledd o gylchfan Grove Park. 

Disgwylir y bydd y gwaith yn parhau tan ddydd Gwener, 16 Chwefror. Ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw oedi neu anghyfleustra a achosir gan y gwaith hwn. 

Achosir y clefyd gwywiad yr onnen gan y ffwng Hymenoscyphus fraxineus, adwaenwyd yn flaenorol fel Chalara fraxinea.

Rhagwelir y bydd clefyd coed ynn yn heintio bron i 80 y cant o goed ynn y DU ac mae eisoes wedi arwain at gwympo coed yng Nghasnewydd.

Sut olwg sydd ar wywiad yr onnen?

Mae gan wywyiad yr onnen gorff ffrwytho fel madarch sy’n tyfu ar wasarn dail yr onnen sydd wedi’i heintio, gan ffrwydro ar agor yn yr haf a rhyddhau miloedd o sborau i’r awyr, ac yn heintio coed ynn iach. 

Ewch i Forest Research i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i adnabod y clefyd, neu ewch i wefan Coed Cadw.

Rheoli gwywiad yr Onnen yng Nghasnewydd

Arolygir pob coeden sy’n eiddo i’r cyngor i fonitro iechyd ac i nodi unrhyw goed a allai fod yn afiach neu’n achosi risg.

Fel rhan o’r arolygon hyn rydym bellach yn nodi ac yn monitro coed ynn am arwyddion o wywiad yr onnen a byddwn yn trefnu torri coed sydd wedi’u heintio er mwyn atal damweiniau.

Caiff rhai ardaloedd mawr o goed ynn eu torri i lawr gydag effaith sylweddol ar fannau coediog lleol.

Mae gan y Cyngor bolisi o blannu dwy goeden ar gyfer pob coeden a dorrir i lawr ar dir y mae’n gyfrifol amdano, felly bydd coed addas eraill yn cymryd lle unrhyw goed ynn sy’n cael eu torri i lawr.

Gallwch helpu i atal lledaenu gwywiad yr onnen trwy:

  • Lanhau eich esgidiau ar ôl ymweld â man coediog
  • Peidio â thorri darnau o blanhigion neu ddeunydd planhigion o’r cefn gwlad
  • Golchi olwynion ceir neu feiciau er mwyn cael gwared ar unrhyw ddeunydd planhigion neu fwd

Adrodd yn marw Ash

Os byddwch chi'n gweld coeden gyda gwywiad ynn mewn man cyhoeddus, rhowch wybod i ni fel unrhyw goeden beryglus arall.

Rhoi gwybod am goeden lle'r amheuir bod coed ynn yn marw

Neu e-bostiwch [email protected]

Gwybodaeth i berchnogion coed

Mae ar berchnogion tir ddyletswydd gofal gyfreithiol ac mae’n rhaid iddynt gynnal eu coed mewn cyflwr gweddol ddiogel. 

Os oes gennych goeden Onnen ar eich eiddo, rydym yn argymell eich bod yn gofyn i feddyg coed er mwyn gwirio am arwyddion o wywiad yr Onnen.

Dylid torri i lawr coeden y mae arni arwyddion o’r clefyd ac sydd mewn lle lle y gallai achosi difrod i bobl neu eiddo. 

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod yr holl ganiatadau sydd eu hangen cyn torri coeden i lawr wedi’u cael, gan geisio arweiniad gan feddyg coed neu ymgynghorydd coed.   

Gwybodaeth ychwanegol

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/clefyd-coed-ynn-taflen.pdf(pdf)

Cyfoeth Naturiol Cymru - Iechyd Coed

Coed Cadw - Gwywiad yr Onnen

Ymchwil Coedwigoedd - Gwywiad yr Onnen

Common sense risk management of trees

Cyswllt

E-bost [email protected] gydag unrhyw ymholiadau.