Enwi a rhifo strydoedd

Sylwch: Gall ffioedd gynyddu ar 1 Ebrill 2024.

Datblygiadau newydd 

Codir tâl o £140 am un cyfeiriad, ynghyd â £50.50 argyfer pob cyfeiriad ychwanegol. Cofrestrwch gyfeiriadau swyddogol ar gyfer:

  • un neu fwy o anheddau neu unedau masnachol newydd
  • newid eiddo presennol yn fflatiau neu unedau masnachol
  • newid adeilad amaethyddol yn unedau preswyl neu fasnachol
  • rhannu uned fasnachol bresennol yn unedau lluosog
  • eiddo a rannwyd wedi'i uno'n un uned breswyl neu fasnachol
  • unedau preswyl neu fasnachol eraill sydd newydd eu hadeiladu, eu hisrannu neu eu huno
  • eiddo presennol heb gyfeiriad cofrestredig swyddogol

Newid enw eiddo

Codir tâl o £50.50 argyfer eiddo sy'n bodoli eisoes yn unig, gweler yr adran  datblygiad newydd  uchod ar gyfer eiddo sydd newydd gael ei godi neu ei addasu. 

Newid enw eiddo:

  • Ar gyfer eiddo sydd â chyfeiriad cofrestredig swyddogol sy'n dwyn enw yn unig
  • Ar gyfer eiddo sydd â chyfeiriad cofrestredig swyddogol sy'n dwyn rhif ac enw

Ychwanegu enw at eiddo â rhif:

  • Ar gyfer eiddo sydd â chyfeiriad cofrestredig swyddogol sy'n dwyn rhif yn unig

Sylwch y gellir ychwanegu enw ond y rhif fydd y prif ddynodwr.

Cadarnhau cyfeiriad 

Codir tâl o £50.50 er mwyn cadarnhau cyfeiriad pan fydd anghysondebau wedi'u nodi, efallai wrth werthu eiddo.

Diwygiad i osodiad datblygiad 

Codir tâl o £50.50 ar gyfer pob llain yr effeithir arni. Mae hyn ar gyfer safleoedd datblygu mawr sydd eisoes wedi'u henwi a'u rhifo ond sy'n cael eu hailgynllunio.

Cais i ailenwi stryd gan breswylwyr 

Codir tâl o £140 am un cyfeiriad ynghyd â thâl o £50.50 am bob llain yr effeithir arni. Mae angen i ddwy ran o dair o breswylwyr ar y stryd gytuno i'r newid a bydd angen cyflwyno tystiolaeth o hyn gyda'r cais. 

Rhaid darparu rhesymau dros y newid hefyd a rhaid i'r enw a awgrymir fodloni'r meini prawf yn y Polisi enwi a rhifo strydoedd (pdf) a bydd yn destun ymgynghoriad.

Cyfrifydd ffioedd enwi a rhifo strydoedd (pdf)