Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI)

Mae gofyniad statudol i'r Cynllun Datblygu Lleol newydd (CDLlN) i Gasnewydd fynd drwy nifer o arfarniadau ac asesiadau penodol i sicrhau bod datblygu cynaliadwy wrth wraidd y CDLlN.  Bodlonir y gofyniad cyfreithiol hwn drwy gynhyrchu Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI).

Mae'r ICA yn bodloni'r gofynion a'r dyletswyddau ar gyfer:

  • Arfarniad Cynaliadwyedd (AC) ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS), 
  • Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG)
  • Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (AEI)
  • Asesiad o'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg (AEIG), a
  • Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (LlCD). 

Nod yr ACI yw llywio a dylanwadu ar y broses creu cynlluniau gyda'r nod o osgoi a lliniaru effeithiau negyddol a sicrhau effeithiau cadarnhaol.

Mae 5 cam allweddol i ACI sydd wedi'i integreiddio â phroses y CDLl:

Cam ACI Cam y CDLl
Cam A - Cwmpasu Galwad am Safleoedd Ymgeisiol
Cam B - Arfarnu Dewisiadau Amgen Y Strategaeth a Ffefrir
Cam C - Asesu'r CDLl ar Adnau Cynllun ar Adnau
Cam Ch - Archwilio a Mabwysiadu Archwilio
Cam D - Monitro Mabwysiadu

Cychwynol ACI – Arfarnu Dewisiadau Amgen (Ymgynghoriad ar gau)

Mae’r Cychwynol Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) yn cynrychioli ail gam proses y ACI.  Mae’r adroddiad yn adolygu'r gwaith a wnaed wrth baratoi'r CDLlN ac yn darparu gwerthusiad o'r dewisiadau amgen rhesymol a ystyriwyd gan y cyngor ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir yn erbyn y fframwaith cynaliadwyedd a sefydlwyd yn yr Adroddiad Cwmpasu blaenorol.

Cychwynol ACI – Arfarnu Dewisiadau Amgen

Roedd cyfnod ymgynghori ACI – Arfarnu Dewisiadau Amgen yn rhedeg rhwng 25 Hydref 2023 a 20 Rhagfyr 2023. Mae'r cyfnod ymgynghori hwn bellach wedi cau.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) – Adroddiad Sgrinio (Ymgynghoriad ar cau)

Mae Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau (2010) yn ei gwneud yn ofynnol i Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd gael ei gymhwyso i'r holl gynlluniau defnydd tir statudol yng Nghymru a Lloegr. Diben yr ARhC yw asesu a fyddai cynigion y Cynllun yn cael unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar safleoedd dynodedig a ddiffinnir o dan Reoliad 10 o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd; sy'n cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchod Arbennig (AGA).

Bydd Adroddiad Sgrinio'r ARhC, sef y cyfnod allweddol cyntaf yn y broses, bellach ar gael I’w adolygu a rhoi sylwadau arno:

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd – Adroddiad Sgrinio

Roedd cyfnod ymgynghori ARhC - Adroddiad Sgrinio yn rhedeg rhwng 25 Hydref 2023 a 20 Rhagfyr 2023. Mae'r cyfnod ymgynghori hwn bellach wedi cau.

ACI - Adroddiad Cwmpasu (ymgynghoriad ar gau)

Mae’r Adroddiad Cwmpasu i’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn amlinellu’r dull arfaethedig o weithredu Arfarniad Cynaliadwyedd (AC) Integredig y CDLlN, gan gynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS).

Yr adroddiad hwn yw cam cyntaf proses ACI ac mae'n nodi'r materion ac amcanion/meini prawf arfarnu cynaliadwyedd y bydd strategaeth, polisïau a chynigion y CDLlN yn cael eu hasesu yn eu herbyn.  Mae hyn wedi cynnwys adolygiad o'r cynlluniau, y rhaglenni, y strategaethau a'r polisïau sy'n berthnasol i baratoi'r CDLlN, ynghyd ag adolygiad o nodweddion sylfaenol amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd Casnewydd.

Adroddiad cwmpasu ACI (pdf)
Adroddiad Cwmpasu ACI: Atodiad B (pdf)
Adroddiad Cwmpasu ACI: Crynodeb Anhechnegol (pdf)

Roedd cyfnod ymgynghori ACI - Adroddiad Cwmpasu yn rhedeg rhwng 30 Mehefin 2021 a 27 Awst 2021. Mae'r cyfnod ymgynghori hwn bellach wedi cau.