Safleoedd Ymgeisiol

Beth yw Safleoedd Ymgeisiol?

Safle Ymgeisiol yw safle a gyflwynir i'r Cyngor gan barti â diddordeb (e.e. datblygwr neu berchennog tir) ar gyfer ei gynnwys o bosibl fel dyraniad yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd (CDLl). Mae'n bwysig nodi nad yw cyflwyno Safle Ymgeisiol yn cynrychioli ymrwymiad ar ran y Cyngor i symud safleoedd ymlaen i'r CDLl newydd. Efallai na fydd tir a ddyrennir yn y CDLl presennol yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y CDLl Amnewid.  O’r herwydd, dylid cyflwyno’r safleoedd hyn hefyd fel Safleoedd Ymgeisiol.

Pa fath o safle y gellir ei gyflwyno?

Mae croeso i chi gyflwyno safleoedd ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau y mae'r CDLl yn darparu ar eu cyfer, gallai hyn gynnwys:

  • Tai
  • Cyflogaeth
  • Manwerthu
  • Cyfleusterau Cymunedol
  • Twristiaeth a Hamdden
  • Ynni Adnewyddadwy
  • Mwynau
  • Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
  • Seilwaith Trafnidiaeth
  • Gwastraff
  • Addysg
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Bioamrywiaeth
  • Seilwaith Gwyrdd

Galw am Safleoedd Ymgeisiol

Mae'r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol yn gam pwysig ym mhroses casglu tystiolaeth y Cyngor i lywio'r gwaith o ddrafftio'r CDLl newydd yn y dyfodol.  Mae'n ofynnol i gynigwyr ddarparu tystiolaeth addas i ddangos cynaliadwyedd, dichonoldeb cyflawni a hyfywedd ariannol safleoedd yn gadarn. 

Mae tystiolaeth fanwl ymlaen llaw ac yn gynnar ym mhroses llunio cynlluniau, fel rhan o'r cam Safle Ymgeisiol, yn hanfodol er mwyn llywio'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth a Ffefrir a chamau dilynol y cynllun. 

Mae Nodyn Canllaw Safleoedd Ymgeisiol (pdf) a Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol (pdf) wedi'u paratoi, a’u diweddaru ar gyfer cam y Strategaeth a Ffefrir i gynorthwyo cynigwyr Safleoedd Ymgeisiol gyda'u cyflwyniad, gan roi rhagor o fanylion am y mathau o safleoedd sy'n debygol o fod yn dderbyniol a'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei chyflwyno i gefnogi eu cynnig safle. 

Crëwyd Galwad am Fap Cyfyngiadau Safleoedd Ymgeisiol hefyd i gynorthwyo cynigwyr safle a gellir ei weld drwy system Fy Mapiau y Cyngor o dan 'Mapiau Casnewydd' ac yn y 'Categorïau Map'.

Ymgynghoriad (ar gau)

Roedd cyfnod ymgynghori Galwad am Safleoedd Ymgeiswyr yn rhedeg rhwng 30 Mehefin 2021 a 27 Awst 2021.

Fel rhan o'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, a gynhaliwyd rhwng 25 Hydref a 20 Rhagfyr 2023, roedd modd cyflwyno cynigion Safleoedd Ymgeisiol ychwanegol i'w hystyried, fel y nodir yn Llawlyfr y Cynllun Datblygu (Mawrth 2020).

Bydd cynigion Safleoedd Ymgeisiol a ddaw i law o fewn y cyfnod ymgynghori yn cael eu hystyried i'w cynnwys yn y CDLlN a disgwylir i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi yn ystod y cam Cynllun Adneuo.

Model Hyfywedd Datblygiad (MHD)

Mae hyfywedd yn ystyriaeth allweddol a fydd yn llywio p’un ai a fydd Safle Ymgeisiol yn cael ei gynnwys yn llwyddiannus yn y CDLl newydd ai peidio.  Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn ei gwneud yn ofynnol i asesiad hyfywedd gael ei gynnal ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol i ddangos a yw'r safle'n hyfyw ai peidio.  Gall peidio â chyflwyno asesiad hyfywedd olygu na fydd eich safle arfaethedig yn cael ei gynnwys yn y CDLl a gyflwynir. 

Mae'r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau eraill ar draws y rhanbarth, ochr yn ochr â’r ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygu Trefi Burrows-Hutchinson Ltd, i sefydlu’r offeryn asesu Model Hyfywedd Datblygu (MHD).  Crëwyd yr MHD fel model cynhwysfawr sy'n hawdd ei ddefnyddio y gall hyrwyddwyr safleoedd a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ei ddefnyddio er mwyn asesu hyfywedd ariannol cynnig datblygu. 

I gael rhagor o wybodaeth am Fodel Hyfywedd Datblygiad a sut i gael copi sy'n benodol i'r safle, cliciwch yma.