Cynllun Datblygu Lleol Newydd

I gael trosolwg o broses y Cynllun Datblygu Lleol Newydd a gweithgareddau ymgysylltu cyfredol, ewch i

newportrldp.co.uk 

Mabwysiadodd y Cyngor Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Casnewydd ar 27 Ionawr 2015 ac mae’n nodi fframwaith cynllunio’r Cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio tir yng Nghasnewydd dros y cyfnod o 2011 i 2026.

Yn unol â gofynion statudol, mae'r CDLl wedi'i fonitro'n flynyddol gyda'r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) a gyhoeddir yma. 

I sicrhau bod CDLl yn gyfredol, rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ddechrau adolygiad llawn ar eu CDLlau o leiaf unwaith bob pedair blynedd ar ôl eu mabwysiadu, neu yn gynt os yw canfyddiadau’r AMBau yn nodi pryder sylweddol ynghylch gweithrediad y cynllun.

Ar 14 Hydref 2020 penderfynodd Cyngor Dinas Casnewydd ddechrau arolwg ffurfiol ar y CDLl.

Cynllyn Datblygu Lleol Newydd Casnewydd

Bydd y cynllun newydd yn ymwneud â sut dylid datblygu tir o fewn ac o amgylch Casnewydd dros y pymtheng mlynedd nesaf.

Bydd y cynllun yn:

  • Penderfynu ble dylai datblygu ddigwydd.
  • Penderfynu pa ardaloedd a ddylid eu gwarchod.
  • Dod yn sail i sut y penderfynir ar holl geisiadau cynllunio yng Nghasnewydd.

Gwyliwch y fideo isod i gael cyflwyniad i Gynllun Datblygu Lleol Newydd Casnewydd (CDLIN)

 

 

Cael y wybodaeth ddiweddaraf

Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad a'r CDLl newydd, gan gynnwys digwyddiadau ymgynghori ac ymgysylltu, cwblhewch y ffurflen gyswllt ar gyfer y CDLl newydd.

Os yw'n well gennych, gallwch ofyn am gopi o'r ffurflen naill ai drwy:

  • e-bostio - [email protected]
  • ffonio - 01633 656656
  • ysgrifennu - Polisi Cynllunio, Cyngor Dinas Casnewydd, y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR.

Cylchlythyr

lawrlwytho rhifyn 005 Tachwedd 2023 (pdf)

lawrlwytho rhifyn 004 Chwefror 2023 (pdf)

Iawrlwytho rhifyn 003 Mawrth 2022 (pdf)

lawrlwytho rhifyn 002 Awst 2021 (pdf)

lawrlwytho rhifyn 001 Chwefror 2021 (pdf)

Strategaeth a Ffefrir (Cynllun Cyn-Adneuo)

Ar gau nawr (Cyfnod cyflwyno: 25 Hydref 2023 – 20 Rhagfyr 2023)

Fel rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLIN), rydym yn awry n gofyn eich adborth ar y Strategaeth a Ffefrir arfaethedig (Cynllun Cyn- Adneuo). 

Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn cynrychioli drafft rhannol o'r CDLl Newydd, yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd o ymgynghoriadau blaenorol a'r sylfaen dystiolaeth sydd ar gael a gasglwyd hyd yma.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys:

  • maint y cartrefi, swyddi a chyflogaeth a gynigir
  • y Safleoedd Allweddol a'r dyraniadau presennol a nodwyd i gefnogi twf
  • a'r polisïau strategol i gefnogi cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion y CDLlA.

Yr ogystal, mae’r Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol (CSY), yr Cychwynol Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) – Arfarnu Dewisiadau Amgen a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) – Adroddiad Sgrinio hefyd ar gael ar gyfer sylwadau. 

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth yma.

Arfarniad Cynaladwyedd Integredig Cychwynnol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Ar gau nawr (Cyfnod cyflwyno: 25 Hydref 2023 – 20 Rhagfyr 2023)

Mae angen Arfarniad Cynaladwyedd Integredig (ACI) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARC) fel rhan o ddatblygiad y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLIN).

Mae'r ACI yn gwerthuso'r potensial ar gyfer effeithiau cadarnhaol a negyddol yn erbyn fframwaith cynaliadwyedd. Mae'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn asesiad o effeithiau posibl safleoedd Ewropeaidd gwarchodedig.

Mae Adroddiad ACI Cychwynnol ac Adroddiad Sgrinio ARhC ar gael ar gyfer sylwadau a gellir eu gweld ochr yn ochr â'r Hoff Strategaeth.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth yma.

Cyflwyno Safle Ymgeisiol Ychwanegol

Ar gau nawr (Cyfnod cyflwyno: 25 Hydref 2023 – 20 Rhagfyr 2023)

Fel rhan o'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir gellir cyflwyno cynigion Safleoedd Ymgeisiol ychwanegol i'w hystyried, fel y nodir yn Llawlyfr y Cynllun Datblygu (Mawrth 2020).

Mae'n bwysig nodi nad yw cyflwyno Safle Ymgeisiol yn cynrychioli ymrwymiad ar ran y Cyngor i symud safleoedd ymlaen i'r CDLlN. 

At hynny, bydd gofyn i unrhyw gyflwyniadau a dderbynnir gynnwys lefel uwch o fanylion i gefnogi'r cynnig, gan gydnabod y dilyniant i gamau diweddarach paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth yma.

Twf ac opsiynau gofodol

Ar gau nawr (cyfnod cyflwyno: 25 Ionawr 2023 – 8 Mawrth 2023)

Mae'r ymgynghoriad twf ac opsiynau gofodol yn ystyried graddfa’r twf (tai a chyflogaeth) ac opsiynau eang ar gyfer lle y gellid lleoli'r twf hwnnw (opsiynau gofodol).

Bydd eich adborth yn helpu i fireinio'r twf a’r opsiynau gofodol er mwyn cynrychioli orau’r cymunedau sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chasnewydd.

Gallwch ddarganfod mwy yma

Cytundeb Cyflawni: Amserlen Ddiwygiedig

Mae'r Cytundeb Cyflawni yn nodi'r amserlen arfaethedig a'r cynllun cynnwys y gymuned. Cafodd hyn ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 24 Mai 2021.

Er mwyn caniatáu newidiadau yn yr amserlenni paratoi, cytunwyd ar amserlen ddiwygiedig gan Lywodraeth Cymru yn ysgrifenedig ar 24 Ionawr 2023 ac mae ar gael ar-lein.

Gweld y llythyr yn cymeradwyo Cytundeb Cyflawni (PDF).

Ar-lein, gallwch chi lawrlwytho diwygiad cyntaf y Cytundeb Cyflawni (PDF)

Gellir hefyd ei weld mewn person trwy apwyntiad yn unig yng:
Nghyngor Dinas Casnewydd, y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR (rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)

I drefnu apwyntiad i weld y cytundeb cyflawni yn y Ganolfan Ddinesig, cysylltwch â'r tîm polisi cynllunio drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 01633 656656.

Gweledigaeth, materion ac amcanion drafft 

Ar gau nawr (cyfnod cyflwyno: 31 Ionawr 2022 – 25 Mawrth 2022)

Fel rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLIN), rydym yn awr yn gofyn am eich adborth i helpu i fireinio’r weledigaeth, materion ac amcanion drafft i gynrychiol’r cymunedau sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chasnewydd orau.

Mae’r adroddiad yn nodi’r hyn y mae’r cyngor yn credu yw’r materion, heriau a chyfleodd allweddol sy’n wynebu Casnewydd ac mae’n darparu gweledigaeth ac amcanion drafft ar gyfer y CDLIN. Gallwch ddraganfod mwy yma.

Safleoedd Ymgeisiol

Ar Gau Nawr (Cyfnod Cyflwyno: 30 Mehefin 2021 – 27 Awst 2021)

Fel rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol newydd, rydym nawr yn agor yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol.  Ystyrir cynnwys cynigion Safleoedd Ymgeisiol a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori yn y Cynllun Datblygu Gwledig.  Yna rhoddir cyhoeddusrwydd i Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn ystod y cam Strategaeth a Ffefrir y disgwylir. Gallwch ddarganfod mwy yma.

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig

Ar Gau Nawr (Cyfnod Cyflwyno: 30 Mehefin 2021 – 27 Awst 2021)

Mae angen Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ISA) fel rhan o waith datblygu'r Cynllun Datblygu Lleol newydd.  Nod y Cynllun yw llywio a dylanwadu ar broses lunio cynlluniau gyda'r nod o osgoi a lliniaru effeithiau negyddol a sicrhau'r canlyniadau cadarnhaol gorau posibl.  Mae'r Adroddiad Cwmpasu ar gyfer y Cynllun bellach wedi'i ddrafftio ac mae ar gael i wneud sylwadau arno. Gallwch ddarganfod mwy yma.

Dechrau Paratoi ar gyfer y CDLlN - Cytundeb Cyflawni’n cael ei Gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru

Ar 24 Mai 2021, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cymeradwyo Cytundeb Cyflawni Cyngor Dinas Casnewydd (sydd Bellach wedi’I ddisodli ar 24 Ionawr 2023). Gellir ei weld:

  • Ar-lein: Y Cytundeb Cyflawni
  • Yn bersonol **DRWY APWYNTIAD YN UNIG**: Yng Nghyngor Dinas Casnewydd, y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR (9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)

Adroddiad Adolygu a Chytundeb Cyflawni

Caewed 5 Mawrth 2021

Cymeradwywyd yr Adroddiad Adolygu a'r Cytundeb Cyflawni gan Gyngor Dinas Casnewydd ar 11 Mai 2021.

Adroddiad Adolygu (pdf)

Chytundeb Cyflawni (pdf)

Galwad anffurfiol ar gyfer safleoedd datblygu mawr

Caewyd 20 Tachwedd 2020

Gwahoddodd y cyngor gyflwyniadau am safleoedd datblygu posibl dros 1ha neu dros 50 uned i'n helpu i ddeall ym mhle mae'r farchnad yn ceisio buddsoddi, mae hyn bellach wedi cau.

Sylwer: nid oedd hwn yn gam CDLl ffurfiol. Bydd angen cyflwyno pob safle yn yr alwad ffurfiol am safleoedd ymgeisiol yng ngwanwyn/haf 2021.

Cyswllt

Cysylltwch â'r Tîm Polisi Cynllunio os oes angen cymorth pellach arnoch:

  • e-bost - [email protected]
  • ffôn - 01633 656656
  • post - Polisi Cynllunio, Cyngor Dinas Casnewydd, y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR.