Ymgynghoriadau CDLl blaenorol

1. Ymgynghoriad ar Orchymyn Datblygu Lleol, Ebrill – Mai 2015 

Ymgynghorodd Cyngor Dinas Casnewydd ar sefydlu Gorchymyn Datblygu Lleol (LDO) er mwyn dileu’r mân-reolau ar gyfer mathau penodol ar ddatblygu yng nghanol y ddinas.

Byddai’r LDI yn rhoi caniatâd cynllunio cynhwysfawr ar gyfer ffurfiau ar ddatblygu nad ydynt yn gynhennus mewn ardal ddiffiniedig am dair blynedd.  

Dim ond defnyddiau penodedig a ganiateid ar loriau dan y ddaear, gwaelod ac uwch yr adeiladau a byddai eithriadau – er enghraifft, dim ond siopau a gâi eu caniatáu ar lawr gwaelod eiddo yn yr ardaloedd manwerthu sylfaenol ac eilaidd.  

Dylai’r LDO fod o fudd i’r ddinas trwy gynyddu lefelau meddiannaeth a gweithgarwch masnachol.

Lawrlwythwch y Gorchymyn Datblygu Lleol drafft (pdf)

Lawrlwythwch Ddatganiad Rhesymau'r Gorchymyn Datblygu Lleol drafft  (pdf) 

2. Newidiadau o’r Materion sy’n Codi, Mehefin – Awst 2014

Mae’r cyngor wedi ymgynghori ar nifer o newidiadau arfaethedig sydd wedi codi o ganlyniad i Faterion a Gododd yn ystod Sesiynau Gwrandawiad 1-19 yr Archwiliad i’r Cynllun Datblygu Lleol.

Gwnaed y newidiadau i fersiwn y Cynllun Datblygu Lleol a gyflwynwyd (Rhagfyr 2013).

Mae’r newidiadau hefyd yn cynnwys nifer o Fân Newidiadau a wnaed yn ystod ymgynghori ar CDLl yr Adnau Diwygiedig (Mehefin 2013) a’u hadrodd i’r Cyngor Llawn yn ystod mis Rhagfyr 2013 ac yn ffurfio rhan o’r Cynllun a gyflwynwyd.

Roedd y MACau hyn yn destun ymgynghoriad ffurfiol o ddydd Gwener 20 Mehefin 2014 i 5pm 1 Awst 2014.

Mae copïau o’r  Atodlen o Newidiadau o Faterion sy'n Codi (pdf) ynghyd â diweddariadau cysylltiedig yn nhermau’r Arfarniad Cynaliadwyedd ((gan gynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol) a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd  Habitats Asesiad Rheolidau Cynefinoedd) hefyd ar gael i’w gweld ac i wneud sylwadau arnynt..

Mae fersiwn 'tracked changes' o’r Cynllun Datblygu Lleol gan gynnwys y Newidiadau o Faterion sy’n Codi hefyd ar gael.

3. Datganiad o Newidiadau â Ffocws, Chwefror – Ebrill 2014

Ymgynghorodd y cyngor ar newidiadau i nifer o ddyraniadau o ganlyniad i’r llwybr M4 a ddiogelir yn cael ei gywiro.

4. Cofrestr Safleoedd Amgen ar Gam y Cynllun Adneuo Diwygiedig Medi – Hydref 2013

Ymgynghorodd Cyngor Dinas Casnewydd ar y Gofrestr Safleoedd Amgen ar y cam CDLl Adnau Diwygiedig ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus chwe wythnos yn ystod mis Medi a mis Hydref 2013.

5. Cynllun Datblygu Lleol Adnau Diwygiedig, Mehefin 2013 

Ymgynghorodd Cyngor Dinas Casnewydd ar Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig a dogfennau cysylltiedig yn ystod mis Mehefin – mis Gorffennaf 2013. 

Dim ond y sylwadau a ddarparwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ar gyfer y Cynllun Adneuo Diwygiedig a gafodd eu hanfon at yr Arolygydd i’w harchwilio.

6. Cofrestr Safleoedd Amgen Awst – Medi 2012

Ymgynghorodd Cyngor Dinas Casnewydd ar y Gofrestr Safleoedd Amgen ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus chwe wythnos yn ystod mis Awst a mis Medi 2012.

7. Cynllun Adneuo Cynllun Datblygu Lleol Casnewydd 2011 - 2026

Adrodd Arfarnu Cynaliadwyedd

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (Ebrill – Mehefin 2012)

Aeth Cynllun Datblygu Lleol Casnewydd adneuo 2011-2026, yr Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinodd trwy broses ymgynghori chwe wythnos o fis Ebrill tan fis Mehefin 2012.

8. Strategaeth a Ffefrir, Ionawr – Mawrth 2010 

Fel rhan o broses baratoi Cynllun Datblygu Lleol Casnewydd 2011 – 2026 (y CDLl), mae Strategaeth a Ffefrir (pdf) yn ceisio gosod cyfeiriad cyffredinol ar gyfer y Cynllun gan roi syniad bras o’r hyn y bydd y Cynllun yn ei wneud, gan ddarparu cyfle i bartïon â diddordeb gyflenwi i ffurfio’r strategaeth, a all wedyn gael ei wneud yn fwy manwl ar gyfer y Cynllun, yr amserlennir iddo gael ei roi yn ffurfiol ar adnau tuag at ddiwedd 2010.     

9. Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd Cychwynnol, Ionawr – Mawrth 2010

Fel rhan o’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol  2011-2026 (y CDLl) cafodd Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd Cychwynnol (pdf) ac Atodiadau A-C (pdf) ac Atodiad D (pdf) * eu llunio a’u rhoi ar gael ar gyfer sylwadau.

Diben Arfarnu Cynaliadwyedd yw hyrwyddo datblygu cynaliadwy drwy integreiddio ystyriaethau cynaliadwyedd (economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol) yn well wrth baratoi a mabwysiadu cynlluniau.  

Caiff yr Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd Cychwynnol ei ddiweddaru yng ngoleuni ymatebion i ymgynghoriadau a chaiff Adroddiad Cynaliadwyedd ei lunio er mwyn cyd-fynd â’r cynllun adneuo, a amserlennir ar gyfer diwedd 2010.  

*Sylwer bod yr atodiadau yn ddogfennau mawr ac mae’n bosibl y byddant yn cymryd cryn amser i’w lawr lwytho. 

10. Adroddiad Sgrinio ar gyfer Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, Ionawr – Mawrth 2010

Fel rhan o’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Casnewydd 2011-2026 (y CDLl) ac fel sy’n ofynnol gan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, cafodd Adroddiad Sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (pdf) ei lunio.

Mae’r adroddiad yn gofnod o gam sgrinio’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) sy’n gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch p’un a yw’n debygol y bydd effeithiau sylweddol ar safleoedd Ewropeaidd o ganlyniad i Gynllun Datblygu Lleol Casnewydd 2011-2026 (CDLl).

11. Opsiynau Strategol, Mawrth – Mai 2009

Mae’r cam Opsiynau Strategol (pdf) yn cynrychioli’r pwynt lle y mae cynnwys gwirioneddol y CDLl yn dechrau cael ei ystyried o ddifrif.

Mae’r cyngor wedi nodi nifer o opsiynau allweddol ar gyfer y cynllun, yn ymwneud â gwahanol agweddau ar dai, cyflogaeth, y Celtic Manor a maes awyr posibl ym Môr Hafren.

Gwahoddwyd ymatebion ar yr opsiynau er mwyn helpu’r cyngor i ddatblygu Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y cynllun.

12. Galw am Safleoedd Ymgeisio, Mawrth – Mai 2009

Gwahoddwyd cyflwyno cynigion i safleoedd gael eu hystyried i’w dyrannu yn y cynllun at ddefnydd penodol.

Gellir cynnig y Safleoedd Ymgeisio hyn ar gyfer eu datblygu, e.e. tai, neu at ddefnyddiau eraill, e.e. mannau agored.

13. Gweledigaeth ac Amcanion Drafft, Rhagfyr 2008

Fel rhan o’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Casnewydd 2011-2026 (y CDLl), mae’n rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd ar y weledigaeth a’r amcanion a fydd yn helpu i ffurfio’r strategaeth a ffefrir a’r polisïau dilynol ar gyfer Casnewydd o 2011.

Gosododd y Weledigaeth ac Amcanion Drafft  <http://www.newport.gov.uk/documents/Planning-Documents/LDP-2011-2026/Draft-Vision-and-Objectives.pdf> (pdf) y cyfeiriad cyffredinol ar gyfer y CDLl.  

14. Meini Prawf Safleoedd Ymgeisio Drafft, Rhagfyr 2008

Roedd angen i’r cyngor benderfynu sut y byddai’n ymdrin â’r gwahoddiad y mae’n rhaid iddo ei wneud ar gyfer safleoedd ymgeisio, a ddiffinnir fel safleoedd y byddai unrhyw barti â diddordeb yn hoffi eu gweld yn cael eu dyrannu at ddefnydd penodol yn y cynllun.

Bydd rhaid i’r safleoedd a gyflwynir gael eu hasesu o ran eu haddasrwydd i gael eu cynnwys yn y cynllun, felly bydd angen i’r meini prawf safleoedd ymgeisio drafft (pdf) gael eu datblygu yn erbyn pa safleoedd y gellir cael eu beirniadu.

Gwahoddwyd sylwadau o ran addasrwydd a phriodoldeb y meini prawf.

15. Galw am safleoedd ymgeisio pwysig, Hydref 2008

Gwahoddodd y cyngor gyflwyno safleoedd pwysig a allai gyflawni elfennau allweddol or hyn allai fod yn strategaeth bosibl i’r cynllun.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen y Cynllun Datblygu Lleol

16. Adroddiad Cwmpasu Drafft o’r Arfarniad Cynaliadwyedd, Hydref 2008

Lluniodd y cyngor, gan weithio gyda’r ymgynghorwyr Atkins, Adroddiad Cwmpasu Drafft (pdf) ac Atodiad (pdf) ar gyfer Arfarniad Cynaliadwyedd y CDLl.