Gorfodi

Mae'r tîm gorfodi cynllunio yn ymchwilio i achosion posibl o dorri rheolaeth gynllunio, yn monitro datblygiadau ac yn ymateb i gwynion.

Ni fydd y cyngor yn delio â phroblemau â ffiniau nac anghydfodau rhwng cymdogion.  

Beth yw torri rheolaeth gynllunio?

Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn diffinio torri rheolaeth gynllunio fel a ganlyn:

'...cyflawni datblygiad heb y caniatâd cynllunio gofynnol, neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad a osodwyd wrth roi'r caniatâd cynllunio'

Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Gwaith adeiladu, gweithrediadau peirianneg a newidiadau perthnasol i ddefnydd yr adeilad sy'n cael eu gwneud heb ganiatâd cynllunio
  • Datblygiad sydd â chaniatâd cynllunio ond nad yw'n cael ei gyflawni yn unol â'r cynlluniau cymeradwy 
  • Methu â chydymffurfio ag amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd neu gydsyniad
  • Arddangos hysbyseb, heb gael caniatâd, y mae angen cydsyniad datganedig ar ei gyfer o dan y Rheoliadau Hysbysebu*
  • Dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth heb gydsyniad ardal gadwraeth pan fydd ei angen*
  • Gwaith a wneir i adeilad rhestredig, sy'n effeithio ar y cymeriad neu'r lleoliad hanesyddol, heb gael cydsyniad adeilad rhestredig*
  • Methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad (e.e. gorfodi, rhybudd dirwyn i ben, hysbysiad atal, adran 215 (tir/adeiladau blêr, ac ati.)*
  • Symud ymaith neu waith sy'n cynnwys tocio coed a pherthi gwarchodedig heb gael cydsyniad neu heb yr hysbysiad cywir*

*Mae'r eitemau hyn yn droseddau

Mae Llawlyfr rheoli datblygu (14) yn rhoi'r arweiniad polisi ynghylch gorfodi cynllunio yng Nghymru.

Gwneud cwyn

Os ydych chi'n amau bod rheolaeth gynllunio wedi'i thorri, cysylltwch â'r adran gorfodi cynllunio gan roi'r manylion canlynol: 

  • Union leoliad y safle neu'r eiddo; efallai na fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r gŵyn heb y wybodaeth hon
  • Sut yn union mae rheolaeth gynllunio wedi'i thorri, yn eich tyb chi
  • Awgrym o unrhyw ddifrod a wnaed neu sy'n cael ei wneud
  • Os oes modd, manylion yr unigolyn neu'r sefydliad sy'n gyfrifol a'r dyddiad ac amser pan ddechreuodd y tor-rheolaeth

Byddwn yn trin pob cwyn yn gyfrinachol a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod gwybodaeth am bwy sydd wedi cwyno yn aros yn gyfrinachol.

Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhoi mewn ymateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth.

Os darperir manylion cyswllt ac rydych chi'n gofyn am gael diweddariadau, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn ysgrifennu atoch ynghylch unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol.

Er bod cwynion dienw yn cael eu derbyn, mae'n well gennym gael manylion; pobl sydd gerllaw'r tor-rheolaeth honedig sy'n rhoi'r dystiolaeth orau yn aml.

Beth fydd yn digwydd i'ch cwyn? 

  • Byddwn yn cydnabod ei derbyn o fewn 5 niwrnod gwaith os ydych chi wedi darparu manylion cyswllt a byddwn yn cofrestru'r adroddiad
  • O fewn 28 niwrnod o gael adroddiad am ddatblygiad anawdurdodedig, bydd y cyngor yn trefnu ymweld â'r safle
  • Os yw'n ymddangos bod rheolaeth gynllunio wedi'i thorri ac mae'r cyngor yn bwriadu mynd â'r mater ymhellach, bydd yn mynd ati fel arfer i geisio datrys y tor-rheolaeth yn 'anffurfiol' yn y lle cyntaf. Os na ellir cyflawni hyn, bydd y cyngor yn penderfynu p'un ai mynd â'r mater ymhellach ai peidio, trwy gamau gorfodi ffurfiol.
  • Os ystyrir bod angen cymryd camau pellach, bydd y cyngor yn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu, a allai gynnwys trafodaeth bellach gyda'r tirfeddiannwr/tirfeddianwyr neu gamau gorfodi ffurfiol 
  • Os bwriedir cymryd camau ffurfiol, gofynnir am awdurdodiad yn y cyfarfod dirprwyedig nesaf a fydd ar gael, neu mewn Pwyllgor Cynllunio lle bo'r angen.

Cysylltu

Cysylltwch â'r tîm gorfodi cynllunio yng Nghyngor Dinas Casnewydd.

Darllenwch ragor am orfodi ar wefan y Porth Cynllunio.