Waterloo

Waterloo Hotel conservation area

Dynodwyd Ardal Gadwraeth Waterloo yn Ngwanwyn 2000

Gweld Ardal Gadwraeth Waterloo (pdf).  

Map o Ardal Gadwraeth Waterloo (pdf).  

Enwir ardal Pillgwenlli ar ôl y gilfach fôr oedd yn draenio corsydd aber afon Wysg. Mae ardal gadwraeth Waterloo ar lan orllewinol yr afon, i’r dwyrain o Ddoc Gogleddol Alexandra.

Mae’r ardal ddynodedig yn cynnwys rhannau o Alexandra Road, Brunel Street, Watch House Parade a Mill Parade.  

Dechreuodd ardal Pillgwenlli ddatblygu’n ddiwydiannol yn hwyr yn y 18fed ganrif, pan agorwyd camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, a’r datblygiadau a ddaeth yn sgil hynny yn ystod canol y 18fed ganrif. Ymhlith y datblygiadau mwyaf arwyddocaol oedd dyfodiad y rheilffyrdd ac agor Doc y Dref.

Disodlodd y Doc hwn y nifer o lanfeydd oedd wedi datblygu ar lannau afon Wysg yn ystod y canrifoedd blaenorol.

Cafodd Doc y Dref ei hun ei ddisodli i raddau helaeth gan Ddociau deheuol a gogleddol Alexandra, a gwblhawyd ym 1875 a 1914. 

Yn sgil y dociau newydd yng Nghasnewydd daeth busnesau newydd a’u hadeiladau i fod. Er bod yr ardal wedi ei datblygu yn ystod canol y 19eg ganrif, mae llawer o’r hyn sydd i’w weld heddiw yn dyddio o’r cyfnod Fictoraidd ac Edwardaidd hwyr, er bod patrymau cynharach y strydoedd wedi eu cadw.  

Nod ardal gadwraeth Waterloo yw cadw cymdogaeth fach o adeiladau Edwardaidd wrth y porth i Ddoc Alexandra. Yn ganolbwynt i’r ardal mae Gwesty’r Waterloo, tafarn Edwardaidd o bwys, a’r gwesty sydd ar gornel Watch House Parade ac Alexandra Road.

Adeiladau masnachol sy’n nodweddu’r ardal ar Alexandra Road. Datblygiadau preswyl teras sydd ar Brunel Street.

Mae’r Bont Gludo ddramatig yn gefnlen i ardal sy’n gyforiog o etifeddiaeth forol gyfoethog Casnewydd.  

Gweler manylion adeiladau rhestredig Casnewydd

Cysylltu   

Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y swyddog cadwraeth.