Canol y Dref

Town Centre conservation area

Dynodwyd ardal gadwraeth canol y dref ar 17 Mawrth 1987 ac mae'n ymestyn o gyffiniau cyffordd y Stryd Fawr â chyffordd yr Old Green Crossing yn y gogledd hyd at gyffordd Commercial Street a Hill Street yn y de.

Lawrlwythwch gynllun o Ardal Gadwraeth Canol y Dref (pdf).

Gwerthusiad Ardal Gadwraeth

Mae gwerthusiad ardal gadwraeth yn ceisio cofnodi a dadansoddi cymeriad ardal, gan gydnabod yr asedau treftadaeth, nodi'r risgiau sy'n bygwth cymeriad arbennig ardal ac ystyried cyfleoedd i'w gwella.

Lluniwyd drafft ar gyfer Gwerthusiad Ardal Gadwraeth Canol y Dref (pdf) yn 2019 ac mae wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. 

Ardal Gadwraeth

Yn yr ardal o amgylch Casnewydd mae cryn dystiolaeth o weithgarwch dynol sy'n dyddio o'r cyfnod cyn-hanesyddol (tua 2000 CC) ac yn cynyddu drwy gydol Oes yr Haearn ac yn ystod cyfnod y feddiannaeth Rufeinig.

Dechreuodd tref Casnewydd ei hun ddatblygu ar hyd glan orllewinol afon llanw Wysg yn ystod yr Oesoedd Canol.

Ychydig iawn o dystiolaeth weladwy o'r cyfnod hwn o ddatblygiad sydd wedi goroesi, gyda Chastell Casnewydd yn eithriad amlwg sy'n heneb gofrestredig ac yn adeilad rhestredig gradd ll*. 

Mae'r rhan fwyaf o’r adeiladau yn yr ardal hon heddiw yn dyddio o oes Victoria ac Edward pan oedd twf Casnewydd ar ei anterth.

Adlewyrchir tarddiad canoloesol craidd y ddinas yn llawer o'r enwau lleoedd fel Skinner Street, Austin Friars, Westgate Square a Corn Street.

Mae’r rhan fwyaf o Ardal Gadwraeth Canol y Dref hefyd wedi'i dynodi'n Ardal Archeolegol Sensitif, sy'n golygu bod gofyniad cynllunio caeth i’r rhan fwyaf o ddatblygiadau fod yn destun asesiad proffesiynol o effaith archeolegol debygol y gwaith arfaethedig.

Uwchben y ddaear mae llawer o gymeriad a golwg yr ardal gadwraeth yn deillio o bensaernïaeth yr adeiladau masnachol trawiadol tri a phedwar llawr.

Uwchben blaenau'r siopau ceir cyfoeth o fanylion pensaernïol sydd, mewn llawer o achosion, heb eu newid yn sylweddol o hyd. Mae nifer mawr yr adeiladau rhestredig yn dyst i ansawdd eithriadol llawer o'r pensaernïaeth sydd wedi goroesi o Oes Victoria a chyfnod cynnar yr20fed ganrif.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn awyddus i hyrwyddo dylunio o ansawdd da ym mhob datblygiad yn Ardal Gadwraeth Canol y Dref.

Mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i wella ansawdd cyffredinol y strydlun drwy ddarparu dull cyson o drin ardaloedd cyhoeddus, er enghraifft gorffeniadau ffyrdd a phalmentydd a 'dodrefn stryd' megis meinciau, bolardiau ac arwyddion gwybodaeth gyhoeddus. 

Manylion adeiladau rhestredig Casnewydd 

Gwybodaeth Ychwanegol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â swyddog cadwraeth Cyngor Dinas Casnewydd neu e-bostiwch [email protected]