The Shrubbery

The Shrubbery conservation area

Dynodwyd Ardal Gadwraeth The Shrubbery ar 11 Ebrill 1983.

Gwerthuswyd yr ardal gadwraeth yn 2019 a diwygiwyd y ffin yn dilyn penderfyniad gan y Cyngor ar 31 Ionawr 2020.

Lawrlwythwch gynllun o Ardal Gadwraeth The Shrubbery (pdf).

Daw’r diddordeb arbennig yn Ardal Gadwraeth The Shrubbery o werth esthetig y gwyrddni helaeth, amrywiaeth bensaernïol yr adeiladau a'u dyluniad nodedig ar ffurf fila.

Gwerthusiad Ardal Gadwraeth

Mae gwerthusiad Ardal Gadwraeth The Shrubbery (2019) ar gael i'w weld ac mae’n nodi hanes yr ardal a’r hyn sy'n gwneud yr ardal yn arbennig yn ogystal â rhoi argymhellion ar gyfer ei chadw a'i gwella.

Mae’r papur addasiadau i'r ffin (pdf) yn nodi sut y diwygiwyd y ffin o 1983 i 2020.

Cyfarwyddyd Erthygl 4

Cyflwynir Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) (pdf), sy’n dileu rhai hawliau datblygiad a ganiateir, ar gyfer Ardal Gadwraeth Caerllion.

Mae'r Cyfarwyddyd hwn yn golygu na ellir gwneud rhai newidiadau i eiddo domestig heb fod angen caniatâd cynllunio e.e. tynnu neu adnewyddu ffenestri a drysau.

Gweler yr hysbysiad am gadarnhad o’r Cyfarwyddyd (pdf)

Sylwch fod effeithiau'r Cyfarwyddyd yn eu lle ers 14 Chwefror 2020.   

Gwybodaeth ychwanegol

Am ragor o wybodaeth darllenwch y daflen gynghori ar ddynodi ardal gadwraeth (pdf) a beth mae hynny'n ei olygu i berchenogion a meddianwyr.  

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â swyddog cadwraeth Cyngor Dinas Casnewydd neu e-bostiwch [email protected].