Sant Gwynllyw

St Woolos conservation area

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dynodwyd  ardal gadwraeth Sant Gwynllyw ar 28 Awst 1985, a’i chanolbwynt yw un o adeiladau mwyaf ysblennydd Casnewydd, Eglwys Gadeiriol Gwynllyw, y mae ei hanes yn dyddio o’r cyfnod cyn-Normanaidd.  

Dogfen Gynllunio Ardal Gadwraeth Sant Gwynllyw.pdf(pdf) 

Wedi ei enwi ar ôl Eglwys Sant Gwynllyw, adeilad amlycaf yr ardal, o ran hanes a phensaernïaeth. Mae pedair ardal wahanol o fewn yr ardal gadwraeth.  

Mae’r eglwys hynafol, sy’n adeilad rhestredig gradd 1, a’r waliau sy’n ei hamgylchynu, ar ynys sydd wedi ei hamgylchynu gan yr A467, lle mae Stow Hill yn ymrannu ac yn troi’n Clifton Road tua’r gogledd.  

Mae’r gadeirlan yn adeilad tirnod go iawn, y dywedir ei bod yn dyddio o tua 500 OC.   

I’r de o’r Gadeirlan, mae Stow Hill, y llwybr a droediwyd gan orymdaith y Siartwyr ym 1839. Daeth yr orymdaith i ben mewn terfysg nid anenwog yng Ngwesty’r Westgate yng nghanol y dref islaw.  

Mae’r heol sy’n amgylchynu ynys yr eglwys sawl metr yn is na thiroedd y gadeirlan, ac o’r herwydd codwyd palmant dyrchafedig gyda waliau carreg pennant y naill ochr a’r llall iddo.

Mae’r llwybrau troed a’r grisiau dyrchafedig yn nodweddiadol o’r rhan hon y ddinas, ac maent yn ymestyn y tu hwnt i’r gadeirlan ar hyd Stow Hill ac i mewn i ardal gadwraeth Canol y Dref gerllaw.  

Clifton Place

I’r gogledd orllewin o diroedd y gadeirlan, mae Clifton Place, teras stwco gan mwyaf o 18 o dai tri llawr, y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o ganol y 1840au. Mae nifer o adeiladau rhestredig yn eu plith.   

Mae’r cymeriad gwreiddiol i’w weld o hyd ar lawer o’r tai hyn, ac mae modd gweld rhai ohonynt o bell y tu hwnt i’r ardal gadwraeth. Mae rhifau 7 ac 8 wedi eu hadeiladu o garreg tywodfaen pennant, ac yn hŷn, mae’n debyg, na’r tai eraill.  

Mae Elusendai Coffa’r Frenhines Victoria (gradd II) ar safle ddyrchafedig ar ochr orllewinol Stow Hill ac i’r gogledd o’r gadeirlan.

Codwyd y grŵp hwn o 9 adeilad tua 1901, ond mae’n debyg y bu elusendai eraill ar y safle lawer yn gynharach.

Mae Cadw yn eu disgrifio fel ‘casgliad deniadol, wedi ei gynllunio’n dda, o elusendai, math anghyffredin o adeilad’.

Mewn ardal o dir coediog, mae hen Balas yr Esgob (Bishopstow), Kingshill erbyn hyn, fwy neu lai’n llenwi ardal dde ddwyreiniol yr ardal gadwraeth.

Victoria Place

Mae rhai o adeiladau hynaf Casnewydd yn Victoria Place, Victoria Road a Park Square  a Hill Street. 

Mae Victoria Place yn ddau deras sy’n hwynebu ei gilydd ar heol sy’n annodweddiadol o wastad o’i chymharu â gweddill yr ardal hon o’r ddinas. Fe’u codwyd tua 1840 i gysylltu Stow Hill gyda’r ardal a oedd yn tyfu o gwmpas Doc newydd y Dref.

Cafodd yr adeiladau eu hadfer ym 1977 ac mae cwmni rheoli yn gyfrifol am eu cynnal. 

Mae hen adeilad godidog yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn cyfoethogi’r ardal, ac yn goron ar yr olygfa wrth edrych o ben Stow Hill y stryd. Mae’r adeiladau hyn i gyd wedi eu rhestru.   

Hill Street a Park Square

Mae Victoria Place yn arwain yn ei blaen i Hill Street ac mae ganddi ganghennau hefyd i mewn i Victoria Road ac yna Park Square.  

Ar ochr ogleddol Hill Street, mae teras o dai o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn adeiladau deulawr a rhai ohonynt wedi eu rhestru.

Mae’r stryd hon yn un sy’n esgyn, a daw i ben wrth gyffordd â Commercial Street, er ei bod yn cysylltu gyda Dock Street yn wreiddiol, er mwyn bod yn llwybr newydd ar gyfer yr ardal fasnachol a diwydiannol a oedd yn prysur dyfu.  

Wrth droi i mewn i Park Square o Victoria Road, gwelir un o adeiladau mwyaf anghyffredin Casnewydd – trawsnewidydd trydan o wneuthuriad haearn bwrw a godwyd yn hwyr yn y 19eg ganrif (tua 1891).

Defnyddiwyd y strwythur silindrog hwn, gyda’i gap conigol a’i bostyn lamp i leihau’r pŵer oedd yn cael ei gynhyrchu gan orsaf bŵer gyntaf Corfforaeth Casnewydd yn Llanarth Street o 2000 o foltiau i 200 o foltiau, er mwyn ei wneud yn addas i’w ddefnyddio mewn cartrefi.  

Mae gardd o siâp triongl, yn fras, yn ganolbwynt i Park Square. Heddiw, yr un enw sydd i’r tair heol sy’n amgylchynu’r ardd. Dengys map Arolwg Ordnans 1881, fodd bynnag, bod tair enw gwahanol ar waith. I’r gogledd, roedd Park Street. Enw’r heol i’r de oedd Park Place. Morgan Street oedd y stryd ddwyreiniol. Mae’r enw olaf hwnnw yn adlewyrchu efallai bod cerflun o Syr Charles Morgan, a godwyd yn wreiddiol ym 1848 wrth gyffordd y Stryd Fawr a Baneswell Road, wedi sefyll ar ben gorllewinol y parc. Ar ôl cyfnod yn y parc, fe’i symudwyd eto, i Westgate Square y tro hwn, a hynny ym 1992.  

Dim ond pedwar o’r 17 adeilad a safai’n wreiddiol ar ochr ogleddol y ‘sgwâr’ sydd wedi goroesi. Ar ochrau’r gorllewin a’r de mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau deulawr a thrillawr gwreiddiol wedi goroesi yn weddol agos i’w ffurf gwreiddiol. Mae rhai (rhifau 9,10 ac 11) yn rhestredig.  

Un nodwedd bwysig ar bob darn o’r ardal gadwraeth yw’r golygfeydd ysblennydd pell; tua’r môr weithiau tuag at Bont Gludo Cansewydd, Aberwysg a Môr Hafren ac weithiau i mewn dros y tir a Chymoedd y de.  

Mae modd gweld y ddinas gyfan o rai mannau, ac ambell olygfa rhwng adeiladau a thros y toeau. Mae’r amrywiaeth golygfeydd yn nodwedd bwysig ac arbennig iawn o’r ardal.  

Adeiladau rhestredig o fewn ardal gadwraeth Stow Hill

Cyfeirnod Cadw

Adeilad Rhestredig

Gradd

2998

Cadeirlan  Sant Gwynllyw

I

3006

6 Clifton Place

ll

3007

7 ac 8 Clifton Place

ll

3019

Ffynnon Yfed i’r Gorllewin  o Gadeirlan Sant Gwynllyw

ll

3031

9 a 10 Park Square

ll

3032

11 Park Square

ll

3038

81 Stow Hill

ll

3039

91 Stow Hill (Kingshill)

ll

3040

93 Stow Hill

ll

3041

103 Stow Hill

ll

3043

108 Stow Hill

ll

3045

1 – 6 Victoria Place

ll

3046

13 Victoria Place

ll

3047

7 – 12 Victoria Place

ll

3048

Eglwys Ddiwygiedig Unedig Victoria Road

ll

3062

Trawsnewidydd Trydan Park Square

ll

t14547

95 - 101 Stow Hill

ll

23126

Porth yr Eglwys, Cadeirlan Sant Gwynllyw

ll

23127

Blwch Llythyrau (cornel Stow Hill a Clifton Road)

ll

23128

Elusendai Victoria

ll

23133

105 Stow Hill (Y Deondy)

ll

23141

2 Clifton Place

ll

23142

3 Clifton Place

ll

23143

4 Clifton Place

ll

23144

5 Clifton Place

ll

23146

14 Victoria Place

ll

23150

13 Hill Street

ll

23151

14 Hill Street

ll

 

Gwelwch yma rhestr o adeiladau rhestredig

Cysylltu 

Cysylltwch â Cyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y swyddog cadwraeth.