Y Redwig

Redwick conservation area

Dynodwyd y Redwig yn ardal gadwraeth ar 29 Mawrth 1985 a chafodd ei ail-arfarnu ym mis Medi 2002.

Gweld Datganiad Dynodi Ardal Gadwrath Redwig (pdf)

Mae ardal gadwraeth y Redwig wedi’i leoli yn Lefelau Gwent, tua 11km i’r de-ddwyrain o ganol dinas Casnewydd.

 

Lawrlwytho cynllun o ffiniau ardal gadwraeth y Redwig (pdf) 

Mae Lefelau Gwent yn cynrychioli enghraifft unigryw o dirwedd a wnaed gan ddyn sy’n gyfoethog dros ben o ran eu nodweddion archeolegol.

Cafodd y Lefelau eu hadfer o’r môr o gyfnod y Rhufeiniaid ymlaen, ac maent yn arddangos patrymau aneddiadau nodweddiadol. Mae’r llociau a’r systemau draenio yn dyst i’w ddefnydd gan genedlaethau’n olynol.

Y Redwig yw’r pentref mwyaf ar y Lefelau ac mae ar groesffyrdd pwysig yn rhan ganolog-ddeheuol y plwyf ac ar ran arfordirol uchaf Lefel Cil-y-coed.

Mae’r pentref wedi’i alinio ar echel ddwyreiniol-orllewinol, gyda’r eglwys ar yr ochr ddeheuol a Thŷ’r Redwig ar ran ogleddol y pentref.

Mae’n bosibl bod Eglwys San Tomos yn dyddio o’r 12fed ganrif yn wreiddiol ac yn adeilad rhestredig gradd I.

Mae cyfnodau datblygu sy’n amlwg heddiw yn dod o’r cyfnod canoloesol gyda chamau adeiladu o’r 14eg, 15fed a 19edd ganrif. Mae Brick House, sy’n hen ffermdy o’r 18fed ganrif bellach wedi’i addasu’n westy rhestredig gradd II, ond mae y tu allan i ffiniau’r ardal gadwraeth.

Mae’r Redwig modern yn bentref gwledig hyfryd sy’n arddangos amrywiaeth o fathau, cyfnodau a steiliau o adeiladau.

Mae’r nifer o goed ffrwythau safonol a'r perllannau traddodiadol yn darparu dail nodedig ar gyfer rhai adeiladau a’r pentref yn gyffredinol. 

Gweld manylion adeiladau rhestredig Casnewydd 

Cysylltu

Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y swyddog cadwraeth.