Machen Isaf

Lower Machen conservation area

Dynodwyd Machen Isaf yn Ardal Gadwraeth ym mis Ionawr 1976 ac mae wedi’i leoli tua 8km tua’r gorllewin o ganol ddinas Casnewydd.  

Lawrlwytho cynllun o ardal gadwraeth Machen Isaf (pdf) 

Mae’r ardal gadwraeth tua 24 erw o faint ac yn cynnwys 18 adeilad rhestredig, gyda dau ohonynt (Tŷ Machen ac Eglwys San Mihangel) yn adeiladau gradd II*. 

Yn sefyll uwchben y pentref tua’r gogledd-orllewin mae Mynydd Machen (362 metr uwchben y môr), ac yn fwy uniongyrchol tua’r gogledd mae Cefnffordd Cwm Sirhywi.

Mae’r Afon Rhymni yn llifo tua 0.5km i’r de o ymyl ddeheuol y pentref.

Caiff y ffin ogleddol ei diffinio gan fanc gogleddol o doriad sy’n cynnwys un llwybr sengl o reilffordd hen Gwmni Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr, ac mae’r ffin ddeheuol yn ymylu ar ochr ogleddol yr A468 sy’n cysylltu Caerffili â Chasnewydd.

Ar un adeg, roedd y ffordd hon yn arwain drwy ran ddeheuol y pentref. Ond arweiniodd cynllun gwella’r ffordd tua 1937 at osgoi’r pentrefan yn gyfan gwbl, drwy adael llinell y ffordd wreiddiol bron yn gyflawn fel lôn dwyrain-orllewin drwy’r Pentref.  

Mae’r ardal gadwraeth wedi’i lleoli yn  Ardal Archeolegol Sensitif Machen Isaf, ardal a ddiogelir sydd tipyn yn fwy, ac sydd wedi’i dynodi’n ardal o ddiddordeb pensaernïol arbennig.

Mae’r amddiffyniad a roddir i’r ardal ehangach hon yn helpu i ddangos arwyddocâd hanesyddol arbennig ardal Machen Isaf yn gyffredinol, er enghraifft, darganfuwyd olion dyn Mesolithig gerllaw.

Mae tystiolaeth ehangach o feddiannaeth yn ystod yr oesoedd Rhufeinig ar ôl canfod crochenwaith, olion sawl strwythur a thystiolaeth o doddi plwm. Awgrymwyd y cyflawnwyd gwaith metel ar ymylon yr aneddiad Rhufeinig oedd yng nghanol ardal bresennol y pentref.

Tybir bod ffordd Rufeinig yn cysylltu’r gaer yng Nghaerllion â’r gaer yng Nghaerffili a dyma’r ffordd oedd yn arwain drwy Fachen Isaf gan fynd heibio Castell Meredydd gerllaw a oedd, yn ôl rhai arbenigwyr, o bosibl y castell olaf i’w gael ei orchfygu yn ymosodiad olaf y Saeson yn 1270 CC. Erbyn heddiw, mae safle’r castell wedi’i amddiffyn gan Heneb Gofrestredig.  

Roedd pentref canoloesol Machen Isaf wedi’i leoli yn yr ardal a elwir yn ardal y Cymry gan ei fod wedi’i reoli gan y Cymry yn y 12fed a’r 13eg ganrif ac wedi’i lywodraethu’n ddiweddarach gan Gyfraith Cymru.

Cyfeiriwyd at Eglwys San Mihangel (Saint o Loegr) fel y’i gelwir heddiw am y tro cyntaf mewn tystiolaeth ddogfennol ym 1102 ac mae’n bosibl y cafodd yr eglwys ei hailgysegru rhywfaint yn hwyrach (GGAT 2002).

Rhan hynaf yr eglwys sydd yn dal i fod yn weladwy heddiw yw’r tŵr, sydd, yn ôl pob sôn, yn dyddio o’r 15fed ganrif. Mae Cadw’n disgrifio eglwys teulu Morgan o’r 18fed ganrif yn ‘anhygoel’, a’r rheswm pennaf dros statws gradd II* yr eglwys hon.  

Roedd ychydig o ddatblygiad yn y pentref yn ystod y cyfnod canoloesol ac roedd teulu Morgan yn bennaf gyfrifol am yr holl ddatblygiadau hwyrach. Y mwyaf nodedig o’r datblygiadau hyn oedd gerddi a Thŷ Machen dwy lawr regentaidd.

Codwyd y tŷ hwn gan ystâd Tredegar ar gyfer y Parchedig C.A.S. Morgan (bu farw ym 1875) brawd iau Arglwydd Tredegar Cyntaf.   Heddiw, mae Tŷ Machen yn adeilad rhestredig gradd II* ac mae’r gerddi wedi’u rhestru’n radd II ar ‘Gofrestr Parciau a Gerddi Cymru’ Cadw / ICOMOS.

Gellir rhannu’r ardal gadwraeth ei hun yn bedair ardal gymeriad yn fras. I’r gogledd o’r eglwys, Eglwys San Mihangel a’r fynwent, Tŷ Machen a’r gerddi ffurfiol a’r tai o amgylch y pentrefan.

 (i) Ychydig iawn o adeiladau sydd yn yr ardal i’r gogledd o’r eglwys ac eithrio Tŷ’r Hen Orsaf a thoriad yr orsaf a’r bont wedi’u casglu ar yr ochr ogleddol eithaf. Coedwig sydd ar ochr ddeheuol yr ardal hon, sef rhan ogleddol gerddi rhestredig Tŷ Machen. Roedd y goedwig hon, sydd bellach wedi gordyfu, yn cynnwys llwybrau cerdded answyddogol, pwll addurnol a phlanhigion bytholwyrdd. Tua’r dwyrain o’r goedwig mae ardal fach o dir amaethyddol ac yna ardal lai o goetir naill ochr i’r lôn sy’n mynd o’r pentref i Ochrwyth.

 (ii)  Roedd eglwys San Mihangel ynghyd â’r fynwent yn ffurfio craidd canoloesol yr ardal ac mae yng nghalon y pentref erbyn heddiw. Mae nifer o’r strwythurau sy’n gysylltiedig â’r eglwys wedi’u rhestru drwy eu hawl eu hunain.

 (iii)   Mae Tŷ Machen a’r gerddi yn nodedig yn sgil yr effaith weledol maent yn ei chael ar yr ardal gadwraeth yn ogystal â’r cysylltiad hanesyddol pwysig â’r teulu Morgan o Dredegar ar adeg pan roedd y teulu yn anterth ei bwysigrwydd. Mae Tŷ Machen a’r gerddi mewn perchenogaeth breifat ac nid ydynt ar agor i’r cyhoedd. Er bod tipyn o’r ardal hon y tu hwnt i olwg y cyhoedd, mae gan y waliau ffin castellog gyda’r tyrau bychain a godwyd o faen lleol ddylanwad amlwg ar ymddangosiad yr ardal.

 (iv)  Tai sydd yn weddill ardal ddatblygedig y pentref heddiw, ac mae rhai ohonynt yn eithaf diweddar. Roedd gan rai o’r tai hŷn wahanol swyddogaethau ar un adeg. Er enghraifft roedd ‘Parkfield’, gyferbyn â’r eglwys, yn ysgoldy Ysgol Genedlaethol Machen Isaf. Mae enwau’r adeiladau eraill yn y pentref yn rhoi cliw i’w swyddogaeth neu gymdeithasau gwreiddiol, er enghraifft, y Tollty, yr Efail a’r Hen Swyddfa Bost. Mae’r rhan fwyaf o’r hen dai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif. Cafodd sawl un o’r rhain eu codi gan y teulu Morgan ar gyfer y gweithwyr ar ei ystâd ac mae rhai’n arddangos nodweddion pensaernïol nodedig eiddo ystâd Tredegar, gan gynnwys y ffenestri bwa gothig a defnydd o foldin capan. Mae’n debyg mae’r Hen Swyddfa Bost yw un o dai hynaf y pentref, ac yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, gyda chraidd hŷn o bosibl.  

Cyeiriadau

GGAT (2002), Land at the Old Post, Lower Machen: Brief for Archaeological Evaluation, Ymddiriedaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent, NEW0270/2/200203/NM

Cadw / ICOMOS (1994) ‘Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part 1: Parks and Gardens’  

Gweld manylion adeiladau rhestredig Casnewydd  

Cysylltu 

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Swyddog Cadwraeth (Adeiladau Hanesyddol) y Cyngor.