Lower Dock Street

Lower Dock Street conservation area map

Dynodwyd Lower Dock Street yn Ardal Gadwraeth ar 28 Ebrill 1995 ac ymestynnwyd y ffiniau ar 7 Rhagfyr 1999.

Lawrlwytho cynllun o ardal gadwraeth Lower Dock Street (pdf).

Gweithredwyd Cyfarwyddyd Erthygl 4(2)  (pdf) i gael gwared ar hawliau datblygiadau a ganiateir penodol ar 23 Ebrill 2002.  

Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn golygu nad oes modd gwneud rhai addasiadau i eiddo domestig e.e. tynnu neu adnewyddu ffenestri a drysau heb gael caniatâd cynllunio.

Darllenwch y ddogfen canllawiau ar y manylion pensaerniol a ffafrir (pdf)

Lower Dock Street 

Mae ardal gadwraeth Lower Dock Street yn cynnwys dros 240 o dai a nifer o adeiladau masnachol sy’n amrywio o siopau traddodiadol a swyddfeydd i Neuadd Seiri Rhyddion, hen dolldy, mart a neuadd ymarfer.

Mae deg o’r adeiladau hyn yn rhai rhestredig gradd II.  

Yng nghanol y 19eg ganrif, roedd yr ardal yn gymuned lewyrchus ac yn deillio o’r systemau rheilffordd a chamlesi, ac adeiladu a gweithredu Doc Casnewydd, a agorwyd ym 1842.

Roedd yr ardal yn cefnogi ystod amrywiol o weithgareddau gan gynnwys masnachwyr o bob math, e.e. glo, pren, canhwyllau, ffrwythau a llysiau ac ati, gydag ystod lawn o siopau yn ogystal â gwestai a thafarndai.

Roedd adeiladau masnachol yn gartref i fusnesau proffesiynol megis cyfreithwyr, peirianwyr a syrfewyr, yn ogystal â swyddfeydd is-genhadon (Portiwgal, Sweden, Norwy, Awstria, Chile a’r Unol Daleithiau ymhlith llawer mwy), a sefydliadau gan gynnwys Y Bwrdd Masnach, Comisiynwyr Harbwr a Thollau Tramor a Chartref.  

Roedd ansawdd yr adeiladau a godwyd yn ystod y cyfnod hwn yn adlewyrchu statws uchel eu meddianwyr, ac er i’r ardal ddechrau dirywio yn hwyrach (ar ôl agor Dociau Alexandra), mae llawer o’r gwaith pensaernïol hwn wedi goroesi ac mewn nifer o achosion, mae’r diddordeb hanesyddol a phensaernïol arbennig yn yr adeiladau wedi cael eu cydnabod drwy eu gosod ar y rhestr statudol.  

Lawrlwytho Download Lawrlwytho Arfariad Ardal Gadwraeth Lower Dock (pdf)

Adfer ac adfywio

Mae cam cyntaf rhaglen Menter Treftadaeth Treflun, sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw, Awdurdod Datblygu Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd, wedi cael ei gwblhau ac mae’r ail gam ar y gweill.

Ynghyd ag adnewyddu sawl adeilad masnachol ar neu gerllaw Lower Dock Street, mae’r rhaglen hon o waith, sydd wedi’i hariannu gan grant, wedi adnewyddu sawl eiddo domestig hefyd, sydd hefyd yn cyfrannu at gymeriad yr ardal gadwraeth.  

Mae’r tai annedd yn yr ardal gadwraeth hon yn amodol ar Gyfarwyddyd Erthygl 4(2), sy’n golygu bod angen cais cynllunio ar gyfer gwaith penodol sy’n amlwg o leoedd cyhoeddus, e.e. addasu neu osod drysau a ffenestri newydd, addasu simneiau a thoeon, gan gynnwys newid gorchudd to a ffenestri to.

Mae angen caniatâd cynllunio ar unrhyw waith o drin arwynebau waliau allanol megis tynnu’r rendrad presennol neu roi rendrad newydd.

Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd ar gyfer newid addurniadau allanol hefyd. 

Gweld manylion adeiladau rhestredig Casnewydd  

Cysylltu 

Cysylltwch â swyddog cadwraeth Cyngor Dinas Casnewydd.