Clytha

Clytha conservation area

Dynodwyd Ardal Gadwraeth Cleidda ar 25 Mehefin 1999, cafodd ei gwerthuso yn 2019 a diwygiwyd y ffin yn dilyn penderfyniad y Cyngor ar 31 Ionawr 2020.

Lawrlwythwch gynllun o Ardal Gadwraeth Cleidda (pdf)

Cydnabyddir ardal Cleidda yn un o'r enghreifftiau gorau o gynlluniau datblygu o ganol Oes Fictoria yng Nghasnewydd. Daw diddordeb arbennig o Ardal Gadwraeth Cleidda o unigrywiaeth a chyfanrwydd ei chynllunio trefol, a chyfoeth ei phensaernïaeth Eidalaidd.

Gwerthusiad Ardal Gadwraeth

Mae Gwerthusiad Ardal Gadwraeth Cleidda (2019) ar gael i'w weld ac mae’n nodi hanes yr ardal a’r hyn sy'n gwneud yr ardal yn arbennig yn ogystal â rhoi argymhellion ar gyfer ei chadw a'i gwella.

Mae’r papur addasiadau i'r ffin (pdf) yn nodi sut y diwygiwyd y ffin o 1999 i 2020.

Gwybodaeth Ychwanegol

Am ragor o wybodaeth darllenwch y daflen gynghori (pdf) ar ddynodi ardaloedd cadwraeth a beth mae hynny'n ei olygu i berchenogion a meddianwyr.  

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â swyddog cadwraeth Cyngor Dinas Casnewydd neu e-bostiwch [email protected]   

Gweld manylion adeiladau rhestredig Casnewydd