Caerleon

Caerleon High Street conservation area

Dynodwyd Ardal Gadwraeth Caerllion ym 1970 a'i hestyn ym 1977.

Gwerthuswyd yr ardal gadwraeth yn 2019 a diwygiwyd y ffin yn dilyn penderfyniad gan y Cyngor ar 31 Ionawr 2020.

Lawrlwythwch gynllun o Ardal Gadwraeth Caerllion (pdf).

Mae diddordeb arbennig Ardal Gadwraeth Caerllion yn deillio'n bennaf o'i hanes Rhufeinig sylweddol a phwysig, ac o ddatblygiadau canoloesol a diweddarach a arweiniodd, ynghyd â'r elfennau Rhufeinig sydd wedi goroesi, at y treflun unigryw sydd ohoni erbyn hyn.

Y cyfuniad hwn o ddwy elfen bwysig o hanes a arweiniodd at gymeriad unigryw Caerllion. 

Gwerthusiad Ardal Gadwraeth

Mae Gwerthusiad Ardal Gadwraeth Caerllion (2019) ar gael i'w weld ac mae’n nodi hanes yr ardal a’r hyn sy'n gwneud yr ardal yn arbennig yn ogystal â rhoi argymhellion ar gyfer ei chadw a'i gwella.

Mae’r papur addasiadau i'r ffin (pdf) yn nodi sut y diwygiwyd y ffin o 1977 i 2020. 

Cyfarwyddyd Erthygl 4

Cyflwynir Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) (pdf), sy’n dileu rhai hawliau datblygiad a ganiateir, ar gyfer Ardal Gadwraeth Caerllion.

Mae'r Cyfarwyddyd hwn yn golygu na ellir gwneud rhai newidiadau i eiddo domestig heb fod angen caniatâd cynllunio e.e. tynnu neu adnewyddu ffenestri a drysau.

Gweler yr hysbysiad am gadarnhad o’r Cyfarwyddyd (pdf)

Sylwch fod effeithiau'r Cyfarwyddyd yn eu lle ers 14 Chwefror 2020.   

Gwybodaeth ychwanegol

Am ragor o wybodaeth darllenwch y daflen gynghori ar ddynodi ardaloedd cadwraeth (pdf) a beth mae hynny'n ei olygu i berchenogion a meddianwyr.