Sgaffaldau

 

Mae'n rhaid i chi gael trwydded cyn codi sgaffaldau a hysbysfyrddau ar neu dros briffordd gyhoeddus. 

Gwnewch gais am drwydded sgaffaldau neu hysbysfyrddau

Rhaid cyflwyno cynllun lleoliad safle a chynllun gweddlun dimensiwn, ynghyd ag unrhyw fesurau rhagofalus arbennig i ddiogelu diogelwch y cyhoedd.  

Ffi'r drwydded yw £187 am dri mis.

Bydd angen i chi hefyd anfon copi o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus (mae angen yswiriant o £5 miliwn o leiaf). 

Dylid rhoi'r drwydded o fewn pum diwrnod gwaith a bydd yn cynnwys amodau sydd wedi’u dylunio i sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd.

Peidiwch â dechrau codi'r strwythur nes i chi dderbyn y drwydded

Rhoddir trwyddedau am gyfnod penodol ac ar ôl hynny mae'n rhaid eich bod wedi tynnu’r strwythur i lawr yn ddiogel neu wedi gwneud cais am estyniad i'r drwydded. 

E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01633 656656 a gofynnwch am y tîm rheoli adeiladu.