Gwneud cais rheoliadau adeiladu

Beth am symleiddio eich proses cais rheoli adeilad drwy ddefnyddio’r Porth Cynllunio

Mae dau fath o gais rheoliadau adeiladu:

1. Cyflwyno gyda chynlluniau llawn

Gellir cyflwyno cais gyda chynlluniau llawn ar gyfer gwaith o unrhyw faint neu fath.

Lawrlwytho’r Cais Rheoliadau Adeiladu (pdf).  

Bydd angen i chi gyflwyno copi electronig o'r holl gynlluniau a gwybodaeth ategol yn ogystal â ffi briodol y cynllun.  Cysylltwch â'r adran ar 01633 210093 neu 01633 210095 os nad ydych yn siŵr beth yw'r ffi gywir. 

Mae angen un copi electronig o gynlluniau ar gyfer cynlluniau lle bod deddfwriaeth o ran ffyrdd o ddianc yn gymwys megis mewn gweithleoedd neu adeiladau masnachol. 

Dylid rhoi penderfyniad ffurfiol o fewn pum wythnos i'r dyddiad adneuo, er gellir ymestyn hyn i ddau fis calendr drwy gytundeb. 

Gellir anfon llythyr diwygio atoch yn gofyn i chi am wybodaeth ychwanegol cyn rhoi cymeradwyaeth. 

Gall y cais hefyd gael cymeradwyaeth amodol neu gymeradwyaeth mewn camau mewn amgylchiadau priodol.

2. Hysbysiad adeiladu

Nid oes angen cyflwyno cynlluniau manwl gyda’r math hwn o gais.

Mae hysbysiad yn addas ar gyfer gwaith bychan i’r cartref, e.e. mân newidiadau ac estyniadau bychan.

Ni all gael ei ddefnyddio gyda gwaith ar swyddfeydd, siopau nac unrhyw ddefnydd masnachol arall.

Lawrlwytho’r Cais Hysbysiad Adeiladu (pdf).  

Bydd angen i chi anfon cynllun bloc i ddimensiwn yn nodi’r maint a sawl llawr fydd yn yr adeilad a’i berthynas â ffiniau a draeniau cyffiniol, ynghyd â’r ffi Hysbysiad Adeiladu.

Nid oes proses i gymeradwyo’r cais yn ffurfiol ond mae cymeradwyo’r safle a chwblhau’r gwaith terfynol i ddigwydd fel sy’n arferol.

Efallai y bydd angen i chi gyflwyno cynlluniau neu fanylion eraill os bernir bod hynny’n angenrheidiol.

Ffioedd

Mae ffioedd safonol ar waith ar gyfer ceisiadau rheoliadau adeiladu, heblaw am mewn achosion lle mae’r gwaith yn fawr, a bydd y ffioedd wedyn yn cael eu pennu fesul cynllun.

Ffioedd safonol

Mae ffioedd rheoli adeiladu yn cael eu diwygio ar hyn o bryd, cysylltwch a [email protected] os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Mae gostyngiadau ar gael ar y costau safonol pan fo perchennog cynlluniau yn gwneud cais o’r newydd am gynlluniau sydd eisoes wedi eu cymeradwyo.

Ffioedd a bennir yn unigol

Os nad yw’r ffi ar gyfer eich gwaith adeiladu wedi ei nodi’n un safonol, bydd yn cael ei chyfrifo’n unigol.

E-bostiwch [email protected] gyda 'Cais am ffi Rheoliadau Adeiladu’ wedi ei nod fel teitl a rhowch ddisgrifiad o’r gwaith a fwriedir. 

Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 24 awr (Llun i Gwener)

Fe’ch anogir i gysylltu  â ni cyn cyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu er mwyn i ni allu eich cynorthwyo i sicrhau y cymeradwyir eich cynllun.

Tâl

  • Cynlluniau llawn - codir tâl cynllunio a thâl arolygu pan gyflwynir y cais cynlluniau llawn
  • Hysbysiad adeiladu - mae'r tâl yn daladwy pan gyflwynir cais
  • Gellir talu drwy gredyd; cerdyn debyd neu BACS.
  • Gellir cyflwyno anfonebau ar gyfer cynlluniau mwy (rhowch fanylion pwy y dylid eu hanfonebu)

I wneud taliad, am gyngor neu am fwy o fanylion ffoniwch 01633 656656 a gofynnwch am y tîm rheoli adeiladu.