Cyngor rheoliadau adeiladu

Mae rheoliadau adeiladu yn safonau cenedlaethol sydd ar waith ar gyfer adeiladau o bob math a newidiadau o bob math i adeiladau ac mae pob agwedd ar waith adeiladu’n berthnasol iddynt.

Canllawiau ar-lein

Gwaith trydan

Mae Rhan P y rheoliadau adeiladu’n ymwneud â gwaith trydan.

Dylai unrhyw waith trydan sy’n cael ei wneud gan bobl sydd heb eu cofrestru gael ei wirio a chael tystysgrif. Perchennog yr eiddo sy’n gyfrifol am sicrhau bod gwaith trydan yn cydymffurfio gyda’r rheolau. 

Dod o hyd i drydanwr cofrestredig  

Pibau carthffos a draeniau

Os ydych yn bwriadu adeiladu dros garthffos, neu ei chau, rhaid i chi hysbysu Dŵr Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy ddarllen ein nodiadau canllaw (pdf) cyn gwneud cais trwy'r ddolen isod.

Proses adeiladu dros garthffos Dŵr Cymru   

Cymeradwyo rheoliadau adeiladu 

Mae angen cael cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar waith sy’n cynnwys: 

  • estyniadau cartref, e.e. cegin, ystafell wely, lolfa
  • trosi gofod yr atig
  • Newidiadau strwythurol mewnol, fel dymchwel wal neu raniad sy’n dal pwysau, gosod bath neu gawod a thoiledau pan fo angen plymio gwastraff a draenio newydd
  • gosod dyfeisiau gwresogi newydd, simneiau neu ffliwiau newydd
  • tanategu seiliau
  • newid agoriadau ar gyfer ffenestri mewn to neu wal
  • amnewid gorchudd to (dros 25%)
  • insiwleiddio ceudodau
  • codi adeiladau newydd sydd heb eu heithrio
  • gwelliannau mynediad i bobl anabl

Mae rhagor o wybodaeth yn y Porthol Cynllunio Rheoliadau Adeiladu.

Gwaith wedi ei eithrio

Mae peth gwaith adeiladu wedi ei eithrio o’r rheoliadau adeiladu, megis ystafelloedd haul, cynteddau, llwybrau â gorchudd ac adeiladau parcio ceir (sy’n agored ar 2 ochr o leiaf), garejys sengl ar wahân, adeiladau unllawr bach ar wahân sydd yn llai ma 30m2 a heb gyfleusterau gwely ynddynt ac adeiladau ar wahân ag arwynebedd y llawr yn 15m2 neu lai a heb gyfleusterau cysgu ynddynt, e.e. sied gardd.

Cysylltu 

E-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd  a gofyn am y tîm rheoli adeiladu.   

Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR