Cynllun Rhentu Preifat Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynllun i wella mynediad i dai tymor hirach, fforddiadwy o ansawdd da ar gyfer aelwydydd digartref.
Dan y cynllun hwn, bydd awdurdodau lleol yn prydlesu eiddo oddi wrth landlordiaid am bum mlynedd.
Yng Nghasnewydd, rydym yn chwilio am fflatiau hunangynhwysol, fflatiau un ystafell wely neu fflatiau stiwdio a chynigir y canlynol i landlordiaid:
- prydles pum mlynedd
- rhent misol wedi ei dalu ymlaen llaw, dim cyfnodau gwag
- rheolaeth lawn gan yr awdurdod lleol – dim ffioedd rheoli
- grant o hyd at £2000 i gyflawni unrhyw waith hanfodol sydd ei angen
- benthyciad ychwanegol di-log o hyd at £8000 ar gyfer gwaith pellach os oes angen
Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch housing.strategy@newport.gov.uk cyn gynted â phosibl.
TRA128981 25/11/2020