Atgyweirio a Chynnal a Chadw

Mae landlordiaid a thenantiaid yn gyfrifol am sicrhau bod eiddo mewn cyflwr da.

Dylai tenantiaid roi gwybod i’w landlordiaid am unrhyw waith atgyweirio sydd angen ei wneud ar yr eiddo ac, ar ôl cael gwybod am hynny, dylai landlordiaid archwilio a gwneud unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol.<

Efallai y gallwn gynnig helpu a chyngor os bydd landlord yn anwybyddu cais gan denant neu’n gwrthod gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol.

Os bydd rhaid i ni ymweld ag eiddo byddwn yn defnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai  i wneud asesiad.

Pan fo peryglon anerbynniol mewn eiddo byddwn yn cysylltu â’r landlord i drafod ei gyflwr a’r dewisiadau sydd ar gael.

Mae gweithdrefnau gorfodi ar waith pan fo camau gweithredu anffurfiol yn aflwyddiannus neu amhriodol.

Lawrlwytho'r Polisi Gorfodi Amddiffyn y Cyhoedd (pdf)

Gwasanaethau Archwilio

Cysylltwch â ni i ofyn am un o’r gwasanaethau archwilio eiddo canlynol:

Rhentu Cartrefi

Mae'r ffordd yr ydych yn rhentu yn newid - i denantiaid a landlordiaid.

Y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.

O 1 Rhagfyr 2022 bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn newid y ffordd y mae holl landlordiaid Cymru yn rhentu eu heiddo. Bydd yn gwella sut rydym yn rhentu, yn rheoli ac yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cysylltu  

E-bost [email protected] neu Cysylltwch â Chyngor Casnewydd a gofynnwch am dîm tai iechyd yr amgylchedd.

Rhagor o Wybodaeth

System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai 

Canllaw Cyflym i’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai gan Rhentu Doeth Cymru 

Llyfrgell Adnoddau Rhentu Doeth Cymru – gan gynnwys asesiad o beryglon diogelwch tân, tamprwydd a lleithder, carbon monocsid, codau ymarfer ac ati

Effeithlonrwydd ynni a chynllun Nyth Llywodraeth Cymru