Rheoli Gwastraff Tai Amlfeddiannaeth

Mae’n rhaid i reolwyr tai amlfeddiannaeth sicrhau bod digon o finiau sbwriel ar gael ar gyfer y bobl sy’n byw yno.

Mae'n rhaid iddyn nhw hefyd gysylltu â’r cyngor i wneud trefniadau i gael gwared â sbwriel a gwastraff os bydd angen. 

Cyfrifoldeb rheolwr y tŷ amlfeddiannaeth yw sicrhau bod tenantiaid yn deall ac yn dilyn y trefniadau rheoli gwastraff ar gyfer yr eiddo.

Byddwn yn ymchwilio i gwynion yn ymwneud â llawer iawn o wastraff y tu allan i eiddo ac rydym yn barod i weithio gyda’r perchennog i ddatrys y broblem.

Byddwn bob amser yn ceisio datrys problemau’n anffurfiol, fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd rhaid i ni roi camau gorfodi ar waith.

Gadael eiddo y tu mewn neu y tu allan i eiddo

  • Os oes gennych chi bryderon ynghylch llawer iawn o wastraff y tu mewn neu o amgylch eiddo Tai Amlfeddiannaeth e-bostiwch [email protected]
  • Os yw’r gwastraff ar y ffordd neu balmant e-bostiwch [email protected]