Gorfodi Tai Amlfeddiannaeth

Mae’r gyfraith yn mynnu bod Tai Amlfeddiannaeth yn cael eu trwyddedu.

Os dylai eiddo fod yn eiddo trwyddedig ond nad felly yw hi, mae'r person sy’n ei reoli yn cyflawni trosedd dan Adran 72 (1) Deddf Tai 2004 a gall gael ei ddirwyo hyd at £20,000 os caiff ei ddedfrydu.

Mae’r rhan fwyaf o landlordiaid Casnewydd yn cynnig llety byw o safon dda ac yn cydweithredu â'r gyfraith ond mae ambell un nad yw yn ymddwyn mor gyfrifol.

Mae nifer o drwyddedau a chosbau yn ymwneud â Thai Amlfeddiannaeth dan Ddeddf Tai 2004 a rheoliadau cysylltiedig. 

Bydd swyddogion y Cyngor yn archwilio Tŷ Amlfeddiannaeth os ydyw’n teimlo fod yr eiddo’n beryglus neu os daw cais neu gŵyn i law. 

Pan fyddwn yn cynnal archwiliad byddwn yn cadarnhau a yw’r eiddo yn cydymffurfio ag amodau trwyddedu, Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth ac yn gwneud asesiad dan Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.

Rhoi gwybod am landlord gwael

Os caiff landlord ei ddedfrydu am fethu â thrwyddedu Tŷ Amlfeddiannaeth gall y cyngor wneud cais i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl <http://rpt.gov.wales/?skip=1&lang=cy> am orchymyn ad-dalu rhent.

Byddai hyn yn gadael i ni hawlio’n ôl unrhyw fudd-dal tai a dalwyd pan oedd eiddo yn gweithredu heb drwydded, am gyfnod hyd at 12 mis.

Gall tenant hefyd wneud cais i’r tribiwnlys i ad-dalu’r rhent a dalwyd ganddo yn ystod yr un cyfnod.

Ffioedd

Mae Adran 49 Deddf Tai 2004 yn galluogi awdurdodau lleol i godi tâl rhesymol i gwmpasu'r gost o gyflwyno Hysbysiad Gwella ffurfiol (Adrannau 11 a 12), Gorchymyn Gwahardd (Adrannau 20 a 21), Rhoi Camau Adfer Brys ar Waith (Adran 40) a Gorchymyn Gwahardd Brys (Adran 43). Os na chaiff y gwaith atgyweirio a fanylir yn yr hysbysiad ei wneud gan y person sy’n gyfrifol amdano mae’n bosibl y byddwn yn ei erlyn neu’n gwneud y gwaith ar ei ran.

 Bydd anfoneb am gostau’r gwaith ynghyd â thâl gweinyddol o 20% yn cael ei anfon at y person dan sylw bydd pridiant tir yn cael ei wneud yn erbyn er eiddo hwnnw.

Cysylltu 

I gael rhagor o wybodaeth holwch adran iechyd yr amgylchedd (tîm Tai Amlfeddiannaeth)  Cyngor Casnewydd