Diogelwch trydanol

Cyfrifoldebau landlordiaid

Mae'n rhaid i landlordiaid wneud yn siwr bod popeth trydanol mewn eiddo ar rent yn ddiogel pan fydd tenantiaid yn symud i mewn a'u bod yn cael eu cynnal mewn cyflwr diogel.

Mae hyn yn cynnwys socedi, ffitiadau golau ac offer fel poptai a thegelli a ddylai ddangos marc CE, sy'n dangos bod y gwneuthurwr wedi bodloni gofynion cyfraith Ewrop.

Dylai tai amlfeddiannaeth ac eiddo sy'n cael ei osod yn unigol gael prawf cyfnodol ac archwiliad bob pum mlynedd oni bai bod peiriannydd yn dweud bod angen llai ohonynt.

Dylai landlord allu dangos ei fod ef neu ei asiant rheoli wedi cymryd camau rhesymol i osgoi cyflawni trosedd. 

Bydd y cyngor yn derbyn Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol neu gyfwerth, sy'n dangos bod trydanwr sydd wedi'i gofrestru gyda NICEIC (y Cyngor Archwilio Cenedlaethol ar gyfer Contractio Gosodiadau Trydanol) wedi profi'r gosodiadau trydanol ac ardystio eu bod yn 'foddhaol'.

Nid yw 'adroddiadau cyflwr gweledol' yn cael eu derbyn.

Yn achos fflatiau, bydd angen tystysgrif ar wahân ar gyfer pob fflat ynghyd â'r ardaloedd cyffredin (i'w chyflenwi gan y landlord).

Rhaid i'r landlord drefnu Prawf Dyfeisiau Cludadwy bob blwyddyn a rhaid i rywun sydd wedi'i gofrestru gyda NICEIC neu gyfwerth basio'r eitemau sydd wedi'u profi.

Os bydd gwaith atgyweirio'n cael ei wneud, gwnewch yn siwr eich bod yn cael Tystysgrif Prawf Trydanol Mân Waith i ddangos bod y gwaith wedi'i gwblhau yn unol â safonau, gan beiriannydd cymwys sydd wedi'i gofrestru gyda NICEIC neu gyfwerth.

Cyfrifoldebau tenantiaid

Dylai tenantiaid roi gwybod i'r landlord am broblemau trydanol cyn gynted ag y byddant yn digwydd a dylent hefyd gynnal a chadw unrhyw eitemau trydanol maent yn dod â nhw i’r eiddo.

  • Gofynnwch i'r landlord am yr Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol i ddangos bod popeth trydanol yn yr eiddo sydd ar rent yn ddiogel pan fydd y denantiaeth yn dechrau.

  • Gwiriwch fod cyfarpar sy'n cael eu darparu gan y landlord yn cynnwys cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, bod tystysgrifau profion PAT (Prawf Dyfeisiau Cludadwy) cyfredol arnyn nhw a'u bod mewn cyflwr da.

  • Gwiriwch fod gennych amddiffyniad RCD (dyfais cerrynt gweddilliol).  

  • Peidiwch â gorlwytho socedi plygiau.

  • Ewch ar-lein i archwilio p'un a yw'r eitemau trydanol yn eich cartref wedi cael eu galw yn ôl gan y cyflenwr.

Os byddwch chi'n rhoi gwybod i'ch landlord am broblemau trydanol ac nid yw'n gwneud unrhyw beth, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm tai, iechyd yr amgylchedd. 

Dolenni defnyddiol

Electrical Safety First   

Trustmark

NICEIC

Electrical Contractors Association

Elecsa