Archwiliadau mewnfudo
Coronavirus COVID-19: the immigration visit service is suspended until further notice.
Pan fyddwch yn gwneud cais i Asiantaeth Ffiniau'r DU am gliriad i gael mynediad i'r DU, efallai gofynnir i chi am asesiad annibynnol o'r man lle byddwch chi'n aros fel rhan o'r cais am fisa.
Bydd hyn yn cynnwys nifer yr ystafelloedd, cyflwr y llety arfaethedig a nifer y bobl fydd yn byw yno.
Gall Cyngor Dinas Casnewydd asesu'r eiddo am ffi o £232.18 (£193.48 + TAW) a rhaid talu'r ffi cyn cynnal yr archwiliad.
Os bydd yr eiddo'n cael ei rentu, rhaid gofyn am ganiatâd y landlord cyn gwneud cais am archwiliad.
Gwneud cais a thalu am archwiliad mewnfudo
neu Lawrlwytho a llenwi ffurflen gais am archwiliad mewnfudo (pdf)
Note - the forms above are currently disabled as the service is suspended until further notice. (4/12/20)
Os byddwch chi'n gwneud cais trwy lenwi'r ffurflen bapur, gallwch dalu'r ffi:
- gyda cherdyn mewn peiriant ATM yn yr Orsaf Wybodaeth NEU
- drwy siec yn daladwy i 'Cyngor Dinas Casnewydd' a'i phostio gyda'r ffurflen gais am archwiliad mewnfudo wedi'i llenwi i: Iechyd yr Amgylchedd - Tai, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR
Pan fyddwn wedi derbyn y taliad, byddwn yn cysylltu â chi o fewn 3 diwrnod gwaith i drefnu apwyntiad.
Cynhelir yr archwiliad o fewn 7 diwrnod o drefnu'r apwyntiad a bydd llythyr yn cael ei anfon hyd at 7 diwrnod ar ôl cynnal yr archwiliad.
Cysylltu
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am dîm iechyd yr amgylchedd (tai).