Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i ddarparu Gwasanaeth Larwm Llinell Fywyd.
Mae’r gwasanaeth ar waith 24 awr y dydd, bob dydd, ac mae ar gael i breswylwyr Casnewydd sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain neu sy’n rhentu’n breifat.
Sut mae’r gwasanaeth larwm yn gweithio?
Bydd gwasanaeth larwm Llinell Fywyd yn rhoi’r canlynol i chi:
- uned larwm Llinell Fywyd
- botwm larwm wedi’i osod ar gadwyn i’w wisgo o amgylch eich gwddf
- gosod am ddim
- cynnal a chadw ac atgyweirio
- uned newydd os yw’r hen un yn ddiffygiol
- archwilio’r offer yn rheolaidd
- gwasanaeth 24 awr y dydd trwy’r ganolfan rheoli mewn argyfwng ym Merthyr
Os oes gennych soced ffôn modern a soced prif gyflenwad trydan sy’n gymharol agos at ei gilydd, y cyfan y bydd rhaid i ni ei wneud yw plygio’r larwm i mewn i’r socedi.
Os nad oes gennych linell ffôn, bydd angen i chi gael un wedi’i gosod. Os nad oes gennych soced trydan gerllaw, gallwn eich helpu i drefnu hyn.
Byddwch hefyd yn cael botwm larwm wedi’i osod ar gadwyn i’w wisgo o amgylch eich gwddf a fydd yn galw’r Ganolfan Rheoli mewn Argyfwng ym Merthyr os caiff ei wasgu.
Bydd y botwm yn gweithio hyd yn oed os ydych chi’n eithaf pell oddi wrth yr uned larwm.
Bydd uned larwm Llinell Fywyd yn eich galluogi i glywed staff y ganolfan reoli’n siarad â chi a gallwch siarad â’r staff heb orfod codi’ch ffôn.
Beth fydd yn digwydd os bydd angen cymorth arnaf?
Os byddwch yn syrthio neu’n teimlo’n sâl, gwasgwch y botwm larwm a bydd swyddog cymorth mewn argyfwng yn siarad â chi trwy’r system larwm ac yn trefnu cymorth i chi os bydd angen, trwy alw am ambiwlans, meddyg neu ffrind neu berthynas a enwyd.
Costau
Codir tâl o £1 yr wythnos y gellir ei dalu’n fisol neu’n flynyddol.
Mae’r costau cyflenwi offer, gosod, cynnal a chadw, atgyweirio a’r ganolfan reoli oll wedi’u cynnwys yn y ffi hon.
Mae Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl ar gael i dalu am gostau llawn y gwasanaeth hwn os ydych chi’n derbyn unrhyw swm o’r canlynol:
- Budd-dal Tai neu Gredyd Tai o dan Gredyd Cynhwysol
- Ad-daliad y Dreth Gyngor (nid gostyngiad unigolyn sengl)
- Gwarant Credyd Pensiwn (nid Cynilion Credyd Pensiwn)
Bydd peiriannydd y larwm yn gadael manylion ynglŷn â sut y gallwch wneud cais am gyllid grant pan fydd y larwm yn cael ei osod neu gallwch gysylltu â’r tîm cefnogi pobl am fwy o fanylion ar (01633) 656656.
Ymgeisio
Cysylltwch â chanolfan reoli Larwm Llinell Fywyd Merthyr ar 01685 384489 lle y bydd gweithiwr yn cofnodi eich manylion ac yn ateb unrhyw gwestiynau.
Os hoffech symud ymlaen â hyn, bydd ffurflen gais yn cael ei hanfon atoch a bydd Gwasanaeth Llinell Fywyd Merthyr yn trefnu i beiriannydd alw i osod uned Llinell Fywyd.
Cysylltu
Canolfan Reoli Llinell Fywyd Merthyr Y Tîm Cefnogi Pobl
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Cyngor Dinas Casnewydd
Rhif ffôn: (01685) 384489 Rhif ffôn: (01633) 656656