Mae angen mwy o dai yng Nghasnewydd. Os bydd cartrefi preifat yn cael eu gadael yn wag, bydd hynny’n arwain at fwy o bwysau i ddatblygu safleoedd maes glas.
Gall cartrefi sy’n wag am gyfnod hir achosi problemau i gymdogion a’r gymuned leol hefyd.
- Peryglon iechyd yn sgil eiddo gwag
Os ydych chi’n dioddef o ganlyniad i blâu, pỳcs, chwilod duon, cnofilod, gerddi sydd wedi gordyfu, waliau neu ffensys terfyn diffygiol, draenio diffygiol neu leithder sy’n treiddio o eiddo gwag, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am dîm tai iechyd yr amgylchedd.
Gallwch gysylltu â’r tîm iechyd yr amgylchedd hefyd os yw’n ymddangos bod eiddo ar agor, e.e. drws ffrynt ar agor, gwydr ar goll o ffenestri llawr gwaelod yr eiddo gwag neu lawr cyntaf y gellir ei gyrraedd yn rhwydd.
Os ydych chi’n amau ymddygiad troseddol, cysylltwch â Heddlu Gwent.
Rhowch wybod am eiddo gwag sy’n ddiolwg ac y credwch ei fod yn cael effaith negyddol ar yr ardal gyfagos trwy gysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm gorfodi cynllunio.
Rhowch wybod am annedd wag y credwch y gallai achosi perygl i’r cyhoedd.
Yn yr achosion uchod, mae gan y cyngor bwerau statudol i weithredu os oes angen dilys i wneud hynny.
Fel arfer, gofynnir i’r perchennog ddatrys y broblem yn gyntaf, oni bai ei bod yn argyfwng.
Os na fydd un o’r amgylchiadau uchod yn berthnasol, mae’n bosibl y gallwn gysylltu â’r perchennog i gynnig cyngor neu gymorth fel y gall ei eiddo gael ei feddiannu eto.
Os oes gennych ymholiadau ynglŷn â Strategaeth Cartrefi Gwag (pdf) y cyngor, anfonwch neges e-bost emptyhomes.team@newport.gov.uk
neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm strategaeth tai a datblygu.