Pentref Myfyrwyr Casnewydd

gold bedroom

Arhoswch yng nghanol Casnewydd sydd ond pum munud ar droed o Gampws Dinas Prifysgol De Cymru.

Gan weithio mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol, mae Pentref Myfyrwyr Casnewydd yn cynnig ystafelloedd o feintiau gwahanol am bris gwahanol, cysylltiad di-wifr am ddim a band eang â gwifren, digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd, ardaloedd cymunedol gyda gemau a bwrdd pŵl, lle i gadw beiciau a diogelwch 24 awr.

Mae ystafell ymolchi i bob ystafell ac fe rennir cyfleusterau cegin a lolfa.

Mae Pentref Myfyrwyr Casnewydd yn agos at ganol y ddinas, amwynderau a chysylltiadau trafnidiaeth.

 

Pentref Myfyrwyr Casnewydd

Tŷ Endeavour
Usk Way
Casnewydd
NP20 2DZ

Ffôn: +44 (0)161 850 6664

E-bost: [email protected]

Gwefan: campuslivingvillages.com/united-kingdom/newport/newport-student-village/

  • Lle diogel i gadw beic
  • Ystafell ymolchi bersonol
  • Derbynfa  sydd â staff 24 awr
  • Yn agos i ganol y ddinas