Bwthyn Fferm Clearwell

Clearwell-Farm-Cottages

Fferm wartheg, cnydau a defaid weithredol 200 erw mewn dyffryn heddychlon, llai na deg munud o gyffordd 28 yr M4, gyda bythynnod cynhwysfawr sy’n ddelfrydol ar gyfer ymwelwyr busnes a’r rheiny sydd ar eu gwyliau.

Mae’r safle’n hynod hygyrch i feicwyr gan fod Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 yn rhedeg ar hyd lôn y fferm, tra bod yr ardal wledig yn atyniadol iawn i wylwyr adar, cerddwyr ac artistiaid.

Mae gan y bythynnod geginau cynhwysfawr, ystafelloedd ymolchi en-suite a setiau teledu, tra bod dau ohonynt ar un lefel ac yn cynnwys gwely a bath gwbl hygyrch.

Mae pob drws yn hygyrch ac mae datganiad mynediad wedi cael ei baratoi ar gyfer yr eiddo.

Oherwydd bod nifer o anifeiliaid ar y fferm, nid oes modd derbyn anifeiliaid anwes.

Mae yna ddwy goedwig a chwe llyn bywyd gwyllt ar y fferm, ac mae’n bosibl i ymwelwyr bysgota am garpiaid yn un ohonynt.

Bythynnod Fferm Clearwell

St Michaelstone-y-Fedw
ger Bassaleg
Casnewydd
CF3 6XT

Ffôn: +44 (0)1633 680966

Ystafelloedd ymolchi en-suite Parcio preifat Ceginau cynhwysfawr
Setiau teledu Cyfleusterau i bobl anabl Safle di-fwg
Croesewir beicwyr Croesewir cerddwyr