'At Home In The City' Serviced Apartments

Mae’r rhandai hunangynhaliol llawr gwaelod hyn yn agos at ganol dinas Casnewydd, bum munud o gyffordd 26 yr M4 a deuddeg milltir o Gaerdydd.

Gallwch yrru i Westy’r Celtic Manor mewn pum munud, lle cynhaliwyd Cwpan Ryder 2010.

Mae pob rhandy’n cynnwys cegin, peiriant golchi a sychu dillad, teledu a pheiriant DVD. Mae WiFi ar gael ar gais.

Mae yna lawer o bethau i’w gwneud yn yr ardal leol, gan gynnwys pysgota, chwarae golff, cerdded a beicio (mae trac beicio cenedlaethol Cymru oddeutu dwy funud i ffwrdd).

Mae tref Rufeinig Caerllion, gyda’i hamffitheatr, baddonau ac amgueddfa, oddeutu deg munud i ffwrdd, a Dyffryn Gwy a Choedwig Dean yn hawdd eu cyrraedd hefyd.

At Home in the City

Rhandai Casnewydd
Argosy Way
Casnewydd
NP19 0LN

Ffôn: +44 (0)2920 794006
Symudol: +44(0)7904 563416
E-bost: [email protected]
Gwefan: www.athomeinthecity.co.uk

Teledu

Parcio preifat

Cyfleusterau golchi dillad

Arhosfan bws gerllaw

Gorsaf drenau gerllaw

Ystafelloedd ar y llawr gwaelod

Safle di-fwg

Derbyniwn y prif gardiau credyd

Mynediad anabl