The Manor House

The-Manor-House

Y plasty Fictoraidd hwn, a gafodd ei ddefnyddio fel ysbyty mamolaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf, oedd y Gwesty Celtic Manor gwreiddiol, a agorodd ei ddrysau ym 1982 cyn mynd ymlaen i ennill Gwobr Egon Ronay ar gyfer y Gwesty Gorau yng Nghymru am bum mlynedd yn olynol.

Mae’r maenordy yn adeiladu tywodfaen hardd, gyda ffenestri plwm gwreiddiol o’r oes Sioraidd, waliau pren mewnol a grisiau pren trawiadol wedi’i haddurno â gwydr.

Mae’r nenfydau addurnol yn cydweddu ag arddull urddasol y plasdy traddodiadol Cymreig hwn.

Mae’r maenordy’n cynnwys un ystafell wely sydd â gwely pedwar postyn ar gyfer achlysuron arbennig. 

Yn y gaeaf, mae tân agored yn y bar, sy’n helpu gwesteion i ymlacio cyn swpera yn y bwyty yn yr heulfan.

Yn ogystal, mae Gwesty The Manor House yn cynnwys ystafell fwyta breifat i hyd at 30 o bobl, ac mae gan y sefydliad drwydded i gynnal priodasau.

Dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer cynnal dawnsiau, priodasau a chyfarfodydd.

Ystafelloedd: 70 ystafell - dwbl, dau wely, teulu, gwely brenin a gwely pedwar postyn, rhai wedi’u haddurno mewn arddull traddodiadol, rhai wedi eu hadnewyddu’n ddiweddar.

Gwesty The Manor House

Gwesty’r Celtic Manor
Coed Coldra
Casnewydd 
NP18 1HQ

Ffôn: +44 (0)1633 410251
Ffacs: +44 (0)1633 410420
Gwefan: www.celtic-manor.com 

Bwytai

Trwydded gweini alcohol

Parcio preifat

Cyfleusterau hamdden

Gardd

Lifft

Cyfleusterau golchi dillad

Darparwn ar gyfer anghenion dietegol arbennig

Aerdymheru

Teledu yn yr ystafell wely

Cyfleusterau gwneud te a choffi

Gorsaf drenau gerllaw

Arhosfan bws gerllaw

Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd

Gwobr Welcome Host