Tŷ Llety Crescent

Crescent-Guest-House

Tŷ llety pedair seren ar gilgant deniadol mewn ardal gadwraeth. Gallwch gerdded i ganol y ddinas o’r llety ac mae golygfeydd godidog o gymoedd de Cymru gerllaw.

Mae’r llety llai na milltir o gyffordd 27 yr M4 ac, o ganlyniad, mae meysydd awyr Caerdydd a Bryste yn hawdd mynd atynt.

Gallwch barcio eich cerbyd oddi ar y stryd, o flaen neu du cefn i’r adeilad.

Mae’r adeilad yn dŷ Sioraidd sy’n dyddio o’r 19eg Ganrif, ac mae’n cynnwys nodweddion gwreiddiol o’r cyfnod, fel ystafell fwyta hyfryd a lle tân marmor.

Mae pob ystafell yn cynnwys cyfleusterau en-suite, teledu sgrin fflat a pheiriant DVD, ynghyd â lluniaeth rhad ac am ddim.

Mae’r ddwy ystafell wely ar y llawr gwaelod yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.

Ystafelloedd:10

Tŷ Llety Crescent

11 Caerau Crescent, Casnewydd NP20 4HG

Ffôn: +44 (0)1633 776677 / 07929 200897 

Gwefan: www.crescentguesthouse.com

Cyfleusterau gwneud te a choffi

WiFi rhad ac am ddim

Parcio preifat

Darparwn ar gyfer anghenion dietegol arbennig

Teledu yn yr ystafell wely