Pen-Y-Groes

Pen-y-Groes-campsite

Mae maes carafanau Pen-y-Groes yn heddychlon ac ynysig, er gwaethaf y ffaith ei fod bedair munud yn unig o gyffordd 28 yr M4, ac yn hygyrch iawn i Gasnewydd a Chaerdydd.

Amgylchynir y maes carafanau hanner erw gan goed a chloddiau aeddfed, ac mae ganddo lyn preifat y gallwch gerdded o’i gwmpas. Mae’r maes yn croesawu anifeiliaid anwes.

Mae trac pob tywydd yn darparu mynediad hawdd i’r safle, sy’n cynnwys nifer gyfyngedig o leiniau caled a lleoedd parcio ceir. Mae gan bob llain gysylltiad trydanol ac mae’r maes carafanau ar agor trwy gydol y flwyddyn.

Safle Ardystiedig y Clwb Gwersylla a Charafanio

Pum llain galed i garafanau

Maes Carafanau Pen-y-Groes

Pen-y-Lan
Bassaleg
Casnewydd

NP10 8RW

(Llywio â lloeren NP10 8RU)

Ffôn: +44 (0)1633 680266

E-bost: [email protected]  

www.caravanclub.co.uk

Cysylltiad trydanol

Croesewir cerddwyr

Croesewir beicwyr

Parcio

Toiledau a chawodydd

Pwynt gwaredu gwastraff